Adolygu Cynnig Canolfan Lleu ym Mhenygroes

Mae cynlluniau Grŵp Cynefin ar gyfer canolfan gymunedol ym Mhenygroes, Gwynedd, yn symud ymlaen wedi cyfnod o adolygu a gwerthuso.

Amcan canolfan newydd Canolfan Lleu yng nghanol pentref Penygroes yw darparu gwasanaethau cymunedol a swyddfeydd integredig newydd ar gyfer cymunedau Dyffryn Nantlle.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Mae gwaith mawr wedi cael ei wneud yn ddiweddar gyda’n partneriaid i ddod â chynnig at ei gilydd fel bod modd symud ymlaen â’r cynllun.

“Mae anghenion swyddfeydd wedi newid yn ddirfawr ers cyfnod Covid, bu cynnydd mewn costau adeiladu, chwyddiant, newid mewn amodau grantiau, a chwtogi ar arian cyhoeddus. Rydyn ni’n datblygu cynllun sydd yn uchelgeisiol, ond hefyd yn realistig a chynaliadwy i’r dyfodol o ran adnoddau a chyllid.”

Mae elfennau o’r cynllun gwreiddiol wedi eu hepgor gan gynnwys cwmni theatr Bara Caws, sy’n trafod cynlluniau amgen ar gyfer theatr a swyddfeydd newydd.

Meddai llefarydd ar ran Bara Caws:

“Gyda siom a thristwch mae Theatr Bara Caws yn gweld erbyn hyn na fydd yn hyfyw i ni sicrhau gweithle ar leoliad Canolfan Lleu ar ei newydd wedd. Mae’r newidiadau cyson sydd wedi digwydd i’r amserlen, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol sydd wedi amlygu eu hunain, wedi ein gorfodi i ddod i’r penderfyniad anodd hwn.

“Fodd bynnag, ‘rydym yn parhau’n awyddus iawn i ad-leoli ein cartref i Ddyffryn Nantlle, a byddwn yn mynd ati rhag blaen i archwilio opsiynau eraill.

“Dymunwn yn dda i brosiect Canolfan Lleu ar ei newydd wedd, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gyd-weithio gyda sefydliadau perthnasol er mwyn gwireddu ein huchelgais o gyfrannu at Iechyd a Lles y trigolion trwy greadigrwydd.”

Y camau nesaf i Ganolfan Lleu fydd rhoi’r cynnig diweddaraf gerbron Llywodraeth Cymru, byrddau rheoli a phartneriaid perthnasol ar gyfer eu cymeradwyo.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

Cookie Settings