Grŵp Cynefin yn croesawu Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru

Mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wedi cynnig ei gefnogaeth llawn ac wedi croesawu Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru. Yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhawyd Rhian Bowen-Davies i’r rôl, a chyflwynodd ei chynlluniau a’i blaenoriaethau i sicrhau newid cadarnhaol, parhaol i bobl hŷn ledled Cymru.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Fel cymdeithas dai sy’n darparu cartrefi a gwasanaethau i bobl hŷn ar draws ein hardal weithredol yng ngogledd Cymru a Phowys, rydym yn llongyfarch Rhian Bowen-Davies ar ei swydd newydd ac yn cefnogi’n llawn ei gweledigaeth o wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.

“Mae Grŵp Cynefin wedi ymroi i ddarparu cartrefi hanfodol a darparu gwasanaethau cymorth i bobl hŷn – mae gennym bum Cynllun Tai Gofal Ychwanegol, gan gynnwys ein cynllun sydd newydd ei ail-ddatblygu yn Llys Awelon, Rhuthun – gan gynnig annibyniaeth, cefnogaeth a byw cymunedol, yn ogystal â dau gynllun tai cysgodol. Mae ein dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Dinbych, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i alluogi  pobl hŷn i fyw gartref am gyfnod hirach.

“Mae Gorwel, uned gymorth Grŵp Cynefin hefyd yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl ac yn atal digartrefedd.

“Rydym wedi gweithio gyda Rhian yn y gorffennol ac yn gwybod pa mor ymroddedig a diffuant yw hi. Rydym yn dymuno’n dda iddi ac yn cynnig ein cefnogaeth lawn i wireddu ei gweledigaeth.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

Cookie Settings