Grŵp Cynefin yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 Grŵp Cynefin ddydd Llun (Medi 23), yn Llanelwy. Agorwyd y diwrnod  a chroesawyd pawb gan Gadeirydd y Bwrdd Rheoli, Tim Jones. Dywedwyd gair gan Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, a ddywedodd bod angen cydnabod ein bod wedi cael blwyddyn anodd a chaled. Ochr bositif hynny ydi bod hyn wedi dangos ein cryfder fel Grŵp Cynefin.

“Mae pobol, sgiliau ac ysbryd arbennig yma. Ac mi allwn ni rŵan edrych ymlaen,” meddai.

“Rydyn ni wedi dechrau’n barod ar y gwaith pwysig o greu Cynllun Corfforaethol 2025-2029  hefo’n gilydd, yn staff, tenantiaid, aelodau bwrdd a chwsmeriaid. A dyma sut ydw i eisiau gweld pethau’n digwydd yn y dyfodol. Rydw i am i hyn osod cynsail i ni at y dyfodol. Dwi eisiau creu diwylliant o gyd-weithio agored yma, yr egni ddaw hefo hynny, a brwdfrydedd am ein gwaith.

“Ar ein pen-blwydd yn ddeg oed, mi ddylen ni bod yn falch o’r hyn ryden ni wedi ei gyflawni yn y deg mlynedd diwethaf. Ac yn falch bod cyfnod cyffrous o’n blaenau i’r degawd nesaf.”

Roedd her i gyd-weithio er lles tenantiaid a chwsmeriaid gan y siaradwr gwadd, Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Eich tenantiaid chi yw ein cleifion ni, eich datblygiad tai chi yw ein gwell iechyd ni. Does dim gwahaniaeth, yr un ydyn ni a’r un ydyn ni i wasanaethu ein pobol. Y dinesydd yn gyntaf, y dinesydd yn y canol.
“Felly yn yr ysbryd yma o gydweithio a mentro, dwi’n gosod yr her i ni gyd i annog ein gilydd i gefnogi ein gilydd a dod at ein gilydd gyda phosibiliadau.”

Cymeradwywyd gofnodion Cyfarfod Blynyddol 2023 a’r cyfrifon blynyddol. Mae’r adroddiad blynyddol 23-24 hefyd yn fyw ar y wefan yma

Cookie Settings