Beth yw Grant Cymunedol Costau Byw Grŵp Cynefin a pwy sy’n gallu gwneud cais?

Mae hwn yn gynllun grant hyd at £500 sydd ar gael i grwpiau o fewn ardal weithredol Grŵp Cynefin (chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys).

Gall grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu grwpiau o drigolion sy’n dymuno dod at ei gilydd yn yr ardal maen nhw’n byw ynddo wneud cais am grant.

Mae’r grant ar gael i grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi oherwydd yr argyfwng costau byw.

Cynllun grant hyd at £500 sydd ar gael i grwpiau o fewn ardal weithredol Grŵp Cynefin (chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys). Bydd y grwpiau rydym yn cefnogi yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi oherwydd yr argyfwng costau byw.

Gallwn gefnogi prosiectau/gweithgareddau sydd yn mynd i’r afael a’r argyfwng costau byw e.e. pantrïoedd bwyd cymunedol, oergell cymunedol, tyfu bwyd, tlodi tanwydd, cyngor ariannol.

Gall grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu grwpiau o drigolion sy’n dymuno dod at ei gilydd yn eu cymuned wneud cais am grant.

  • nid oes angen i’r grŵp fod â chyfansoddiad (mae cyfansoddiad yn nodi bwriadau eich cymdeithas i weithio er budd y gymuned gyfan y mae’n ei chynrychioli).
  • rhaid gwario’r grant o fewn 12 mis.
  • bydd gofyn i chi ddarparu 20% o arian cyfatebol

 

  • gan unigolion
  • cefnogi costau craidd canolfan gymunedol, ysgol neu glwb
  • gan grwpiau ar gyfer gweithgareddau crefyddol
  • gan gwmnïau sy’n ceisio gwneud elw
  • cyllid am yn ôl, h.y. prosiectau sydd wedi’u cwblhau eisoes, boed wedi talu amdanynt ai peidio

Cwblhewch y ffurflen gais isod neu lawrlwythwch copi a’i anfon at mentraucymunedol@grwpcynefin.org cyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 30 Medi 2024

Byddwn yn gadael i chi wybod o fewn 4 wythnos os ydi eich cais yn llwyddiannus.
plant bach yn cerdded lawr y bryn

Gwybodaeth bellach

Am gyngor neu i drafod os yw’ch prosiect yn gymwys, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol

0300 111 2122

mentraucymunedol@grwpcynefin.org

Plant ysgol leol yn cael diod yn Hafod y Gest

Ffurflen gais

Cwblhewch y ffurflen gais electroneg ar waelod y dudalen yma neu lawrwlythwch y ffurflen gais isod a’i ddychwelyd at mentraucymunedol@grwpcynefin.org cyn y dyddiad cau.

Ffurflen gais

 

 

Ffurflen gais

Grant Cymunedol - Costau Byw

1. Enw'r grŵp

2. Enw'r prosiect

3. Manylion y person sy'n cyflwyno'r cais

4. Cefndir

5. Pa brosiect/ gweithgareddau ydych chi'n gofyn am arian ar ei gyfer?

6. Costau'r prosiect

7. Nodwch o ble ddaw yr 20% o arian cyfatebol tuag at y prosiect

8. Darparwch ddadansoddiad o gostau'r prosiect gan restru pob eitem

9. Pwy a sawl person fydd yn elwa o'r prosiect?

10. Pa ddeilliannau rydych chi’n gobeithio eu cyflawni gyda’r prosiect (h.y. pa wahaniaeth fyddai’r prosiect yn ei wneud)?

11.Ymhle fydd y prosiect yn cymryd lle?

12. Pryd ydych chi'n gobeithio cychwyn y proiect hwn?

13. Sut mae'r grŵp / prosiect yn hybu'r iaith Gymraeg?

14 Sut fyddech chi'n hyrwyddo cyfraniad Grŵp Cynefin?

15. Ydych chi’n perthyn i aelod o staff o Grŵp Cynefin? Os ydych, pwy a sut ydych yn perthyn?

Ydych chi'n perthyn i aelod o staff Grŵp Cynefin?(Required)

16. Unrhyw sylwadau eraill i gefnogi eich cais

17. Ym mha iaith fyddai well gennych dderbyn unrhyw gyfathrebiad gennym?

Ym mha iaith fyddai well gennych dderbyn unrhyw gyfathrebiad gennym?(Required)

18. Datganiad

MM slash DD slash YYYY
Cookie Settings