Prosiect Byw yn Annibynnol
Yn codi ymwybyddiaeth o realiti byw’n annibynnol a digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Bwriad y prosiect yw atal digartrefedd ymysg pobl ifanc trwy addysgu a chodi ymwybyddiaeth
Gwneir hyn trwy ddarparu:
- gwasanaeth gwybodaeth a chynghori ar gyfer pobl ifanc ar draws Conwy a Sir Ddinbych
- rhaglen sy’n rhoi cymorth buan ac wedi’i dargedu i bobl ifanc sydd mewn risg mawr
- rhaglen estyn allan hyblyg i roi cefnogaeth i bobl ifanc mewn llety dros dro neu lety â chefnogaeth
Mae’r prosiect Byw yn Annibynnol, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Cynefin, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chartrefi Conwy, Tai Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.