Ymateb Grŵp Cynefin i’r bygythiad o aflonyddwch sifil

Yn sgil marwolaethau trasig tair merch yn Lloegr gwelwyd y gymuned yn dod at ei gilydd mewn galar. Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’u teuluoedd.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae eithafwyr hiliol lle mai eu hunig nod yw creu ofn ac anhrefn, wedi creu terfysg ar draws y DU. Ymosodwyd ar bobl ddiniwed, mae addoldai wedi cael eu bygwth, a gwestai sy’n gartref i geiswyr lloches wedi eu targedu. Mae llyfrgelloedd, hybiau cymunedol a sefydliadau sydd wrth galon cymunedau wedi cael eu heffeithio.

Nid protestiadau yw’r gweithredoedd, ond yn hytrach gweithredoedd anghyfreithlon a gan bobl heb unrhyw ddiddordeb yn y drychineb, dim ond mewn lladrata ac achosi anhrefn.

Hoffem sicrhau ein cymunedau y bydd Grŵp Cynefin yn cymryd pob cam posibl i sicrhau y gall ein tenantiaid barhau i deimlo’n ddiogel a mwynhau eu cartrefi yn y cyfnod anodd hwn. Byddwn ni, mewn partneriaeth â swyddogion gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau’r Llywodraeth, yn sicrhau bod unrhyw rai sy’n cyflawni’r terfysgoedd hyn yn cael eu dwyn nid yn unig i gyfraith, ond lle bo’n berthnasol, yn wynebu camau ynghylch torri amodau eu contract meddiannaeth.

Cookie Settings