Grŵp Cynefin yn creu cartrefi i bobol leol ym Môn

Bydd tai newydd ym Mryn Du, Ynys Môn, yn darparu  wyth o gartrefi cyfoes a chyfforddus i’w rhentu ar gyfer pobol leol. Gyda phrisiau tai yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae galw mawr am dai rhent fforddiadwy yn yr ardal.

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin, sy’n berchen ar ac yn rheoli 4,800 eiddo ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys, yn cydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cartrefi sy’n estyniad i Stad y Felin ym Mryn Du, ger Rhosneigr.

Mae’r tai rhent cymdeithasol, yn cynnwys pedwar byngalo dwy lofft, tri thŷ dwy lofft ac un tŷ pedair llofft. Mae ganddynt erddi a gofod i barcio ceir.

Mae’r cartrefi yn  cael eu hadeiladu i safonau Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio dulliau modern o adeiladu gyda chynaliadwyedd yn flaenoriaeth.

Mae gan bob cartref baneli solar ar eu toeau, yn cael eu gwresogi gan bwmp gwres ffynhonnell aer ac  maent wedi eu hinsiwleiddio i safon hynod o uchel. Bydd hyn yn arbed egni ac o ganlyniad arbed arian ar filiau egni.

Cyn datblygu unrhyw stad dai, caiff ymchwil manwl ei wneud gyda’r gymuned leol i benderfynu yr union angen a pha fath o dai y mae pobol lleol am eu gweld yn cael eu datblygu.

Caiff y gwaith hwn ei wneud gan Hwyluswyr Tai Gwledig, a weinyddir gan Grŵp Cynefin, ac yn dilyn proses o ymgysylltu ac ymgynghori lleol, gwelwyd bod angen am dai o’r fath ar gyfer bobol leol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i drigolion lleol Bryn Du a’r ardal gyfagos.

Cwmni o ogledd Cymru, Gareth Morris Construction Ltd sy’n gyfrifol am adeiladu’r stad.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae’r estyniad i Stad y Felin yn ymateb yn uniongyrchol i’r angen lleol am amrywiaeth o gartrefi fforddiadwy o safon uchel ac rydym yn falch o allu darparu hyn trwy gydweithio gyda Chyngor Môn a Llywodraeth Cymru.

“Mae darparu tai i bobol leol allu parhau i fyw yn eu hardal wrth graidd ethos Grŵp Cynefin ac mae’r datblygiad hwn ym Mryn Du yn enghraifft berffaith o hyn. Mae cyfle rŵan i bobol roi cais i mewn i ddod yn denantiaid a chreu cartref yna.”

Dywedodd Ned Michael, Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae’r prosiect diweddaraf yma gan Grŵp Cynefin ym Mryn Du yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu tai fforddiadwy, effeithlon ac o ansawdd uchel i bobl leol ar draws yr Ynys.

“Mae ein Strategaeth Tai 2022 i 2027 yn chwarae rhan annatod wrth i ni weithio’n annibynnol, a chyda phartneriaid allweddol, i barhau i ddiwallu anghenion tai ein trigolion lleol nawr ac yn y dyfodol.”

Mae Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ynys Môn yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb mewn rhentu’r tai newydd yn cael pob cyfle i gofrestru eu diddordeb. Os am wneud cais, dylech wneud hynny drwy  gysylltu gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752200 neu’r wefan Ymgeisio am dŷ cyngor (llyw.cymru)

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y cyfryngau neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â  Mari Williams,

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

Cookie Settings