Arolwg Cartref

Ar ôl yr arolwg. Be’ rŵan?

Os ydych yn denant i Grŵp Cynefin byddwch wedi cael neu ar fin cael arolwg o gyflwr eich cartref. Mae hyn er mwyn i Grŵp Cynefin allu cynllunio gwaith gwella ac adnewyddu. Cwmni Rapleys sy’n gwneud y gwaith ar ein rhan.

Efallai bydd ychydig o amser nes byddwch yn clywed gennym yn dilyn yr arolwg. Mae hyn er mwyn i ni edrych ar yr holl wybodaeth gasglwyd a’i ddefnyddio ar gyfer creu cynllun sut i fuddsoddi yn y blynyddoedd i ddod.

Beth fydd y camau nesaf?

  • Gwneud arolwg o 100% o eiddo Grŵp Cynefin
  • Creu cynllun i wneud y gwaith mwyaf brys yn gyntaf
  • Cyflawni ceisiadau adnewyddu hanesyddol sydd wedi eu cydnabod gan ein swyddogion

Ebrill 2025 ymlaen

Dechrau ar raglen fuddsoddi newydd, gan ddechrau gyda…

  • Gwaith allanol
  • Ceginau ac ystafelloedd ymolchi

Diolch am eich amynedd. Byddwn yn cysylltu hefo chi pan fydd newydd am waith i’ch cartref. Felly, os gallwch fod yn amyneddgar ac aros i ni gysylltu hefo chi, byddem yn ddiolchgar iawn.

Dim angen i chi gysylltu hefo ni – byddwn ni yn cysylltu hefo chi!

Os na drefnwyd arolwg eto, mae’n bwysig trefnu un.

Does ond angen i chi wneud dau beth!

  • Ffonio Rapleys ar 01480 371 460 a dewis opsiwn 1 i Grŵp Cynefin a gadael enw a rhif cyswllt – fe wnawn nhw ffonio’n ôl
  • Bod adre am 45 munud ar yr amser drefnwyd

Mwy yma am arolygon Rapleys

Cookie Settings