Gwobrwyo Grŵp Cynefin am roi llwyfan i lais eu tenantiaid

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi ennill gwobr arbennig am eu gwaith i sicrhau bod llais tenantiaid yn ganolog wrth siapio eu gwasanaethau a pholisïau.

Enillodd Tîm Mentrau Cymunedol y grŵp wobr gyntaf yng ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru yng Nghaerdydd (nos Fercher, 3 Gorffennaf). Good Practice Award Winners 2024: (tpas.cymru)

Daethant i’r brig yng nghategori ‘Llais y Tenant’ am eu gwaith yn annog tenantiaid y grŵp i gymryd rhan mewn gweithdai, ymuno â phwyllgorau a chyd-ymgynghori ar faterion a gwasanaethau allweddol.

Cynhelir Gwobrau Arfer Da TPAS (Tenant Participation Advisory Service) Cymru yn flynyddol i dathlu llwyddiannau yn y maes tai o ran meithrin a chynnal cyfraniad tenantiaid.

Mae gwaith Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys trwy’r broses o ddatblygu gwasanaethau a pholisïau ar y cyd, elfennau sy’n cael effaith bositif ar denantiaid a’u cartrefi.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y wobr yma,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin. “Mae’n adlewyrchu ein hymroddiad ni fel tîm, a Grŵp Cynefin ar ei hyd, i greu diwylliant lle mae lleisiau  tenantiaid  yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd ar-lein a wyneb yn wyneb, pwyllgorau ymgynghori a digwyddiadau amrywiol.

“Rydyn ni yn gwrando ar ein tenantiaid ac yn gallu profi hynny. Diolch yn fawr i’n tenantiaid am gyfrannu mor barod a brwdfrydig. Mae’n hollbwysig i’n gwaith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ymhellach ar y llwyddiant yma a gweithio hefo’n gilydd i wella ein gwasanaethau a’n cymunedau.”

Meddai Chris Schoen, sy’n aelod o Bwyllgor Tenantiaid Grŵp Cynefin

“Dwi’n mwynhau rhoi mewnbwn sy’n effeithio polisiau a sut mae Cymdeithas Tai yn trin tenantiaid”

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org 

Cookie Settings