Swyddi cefnogi newydd yn natblygiad Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun

Wrth i gam cyntaf ailddatblygu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun agosáu at ei derfyn, mae’r ymgyrch recriwtio am staff wedi dechrau.

Mewn partneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych, mae ailddatblygu’r safle yn golygu adeiladu bloc newydd sbon, gan ychwanegu 25 o fflatiau hunangynhwysol at y 21 uned sydd eisoes yno.

Wrth i’r cynllun ehangu, fe fydd y tîm gofal yn ehangu hefyd, ac mae Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n recriwtio staff gofal a chefnogi dydd a nos.

Mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu ar 19 Mehefin yn Hafan Deg, Grange Road, Y Rhyl, fe fydd cynnig i bawb sydd â diddordeb yn y swyddi yma, yn ogystal â swyddi gofal a chefnogi eraill yn Sir Ddinbych, i fynychu gweithdai yn ogystal â chlywed am y swyddi diweddaraf sydd ar gael, a sut i ymgeisio amdanynt.

Fe fydd Grŵp Cynefin hefyd yn recriwtio staff ar gyfer Llys Awelon yn fuan ac fe fydd yr hysbysebion swyddi i’w gweld ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Grŵp Cynefin.

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Mae’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn Llys Awelon yn golygu bod yna gyfle arbennig i bobl ymuno â’n tîm gofal gwych ni.

Mae’r Cyngor bellach yn dymuno recriwtio staff gofal a chefnogi dydd a nos. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i ddod draw i ddysgu mwy.”

Meddai Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau, Grŵp Cynefin:
“Rydyn ni’n ymfalchïo yn safon y llety a’r gofal sy’n cael ei gynnig yn ein cynlluniau tai gofal ychwanegol. Maen nhw’n gymunedau gofalgar a chroesawgar i bobl hŷn, ac mae staff ardderchog yn hanfodol i hyn. Mae’r dull partneriaeth sydd gennym gyda Sir Ddinbych yn ein cynlluniau tai gofal ychwanegol yn golygu y gallwn ni ddarparu lefel all ei addasu a sy’n hyblyg o ran gofal a chymorth a’i deilwra i anghenion unigolyn.
“Felly mae angen unigolion gofalgar a fydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol ac yn dod yn rhan annatod o’r gymuned unigryw yn Llys Awelon. Fe fyddan nhw’n cydweithio â thîm ardderchog Grŵp Cynefin ar y safle, dan arweiniad Gwawr Lewis, Rheolwr y Cynllun.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle yn y digwyddiad recriwtio, e-bostiwch Gyngor Sir Ddinbych ar swyddigofalcymdeithasol@sirddinbych.gov.uk.

Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau am y cynllun neu am gyfweliadau, at

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org 

Cookie Settings