Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) – Beth mae’n ei olygu i chi

Mae’n bosibl fod rhai ohonoch wedi clywed am Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023. Ond beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Dyma rai cwestiynau cyffredin am Safonau Ansawdd Tai Cymru, gan obeithio bydd yn help i  ddeall mwy.

1. Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru 2023?

Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd  Llywodraeth Cymru set newydd o safonau ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy i denantiaid, o ansawdd da, addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a’r dyfodol.

2. Beth yw’r prif bethau sydd wedi eu cynnwys yn y safonau newydd?

Er mwyn i Grŵp  Cynefin fodloni safonau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i’ch cartrefi:

  • Fod mewn cyflwr da
  • Fod yn saff a diogel
  • Beidio costio gormod i’w gwresogi na niweidio’r amgylchedd
  • Fod yn gyfforddus ac addas i’r sawl sy’n byw ynddyn nhw

3. Beth sy’n wahanol i’r hen safonau WHQS?

Mae’r safonau newydd yn

  • Canolbwyntio  ar y tenant
  • Hyrwyddo  iechyd, addysg a llesiant cadarnhaol
  • Hyrwyddo  ymgysylltiad cyson gyda  thenantiaid a chwsmeriaid

4. Sut alla i fod yn rhan o hyn? 

Rhan bwysig o’r safonau newydd ydi’ch cyfraniad chi. Byddwn yn rhannu gwybodaeth yn fuan am sut gallwch chi gymryd rhan.

5. Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.llyw.cymru/safon-ansawdd-tai-cymru-2023-0

Cookie Settings