Mudiadau lu yn manteisio o grantiau Grŵp Cynefin

Mae 21 o fudiadau yn ardal leol Rhuthun wedi derbyn hwb ariannol o ganlyniad i ddatblygiad cynllun tai gofal ychwanegol yn y dre. Maen nhw yn amrywio o glwb criced a chôr, i ysgol feithrin ac eisteddfod (rhestr llawn ar waelod y datganiad).

Ddechrau’r flwyddyn, lansiodd cymdeithas dai Grŵp Cynefin a Read Construction gronfa gwerth £18,000 ar gyfer gweithgareddau i wella cymunedau’r ardal, fel rhan o ail-ddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun. Ac mae’r mudiadau llwyddiannus wedi dechrau gwneud defnydd da o’r arian yn barod.

Derbyniodd Cylch Meithrin Rhuthun grant ar gyfer ychwanegiad hynod o gyffrous i’w darpariaeth, sef creu ysgol goedwig. Meddai Kate Griffiths, Arweinydd y cylch:

“Mae plant a staff Cylch Meithrin Rhuthun yn hynod ddiolchgar am y rhodd hael gan Gronfa Llys Awelon. Mae’r arian yma yn mynd yn bell tuag at gwireddu ein nod o ddatblygu ein ardal ysgol goedwig.

“Mae amser yn yr awyr iach mor bwysig i les plant ag oedolion yn ogystal,  ac mae’r brosiect yma yn mynd i  fod o fudd mawr i’r gymuned gyfan”.

Yn ddiweddar cynhaliwyd Eisteddfod Pwllglas, wnaeth hefyd ddefnyddio arian grant ar gyfer cynnal y digwyddiad.

Meddai Richard Roberts, Trysorydd yr Eisteddfod:

“Cafwyd eisteddfod llwyddiannus, wnaeth ddenu pobol a phlant o bob oed at ei gilydd. Roedd yna fand ifanc, dawnswyr cyffrous a chôr ac unawdwyr traddodiadol, ochr yn ochr. Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i gymuned Gymreig fel Pwllglas, yn dod â’r cenedlaethau a diddordebau amrywiol at ei gilydd o dan un to. Rydyn ni yn ddiolchgar iawn am yr hwb ariannol ar gyfer digwyddiad fel hyn sy’n dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr, codi arian a noddwyr.”

Mae datblygu Llys Awelon yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru a Read Construction yw’r cwmni adeiladu lleol sy’n ail-ddatblygu’r safle.

Meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin.

“Mae’n arferol bod cytundeb adeiladu mawr fel ail-ddatblygu Llys Awelon yn cynnwys buddsoddiad y tu hwnt i’r safle adeiladu, ac yn y gymuned leol, trwy grantiau. Mae’n wych felly gweld i le mae’r arian yn mynd a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud.”

Rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi y mudiadau lleol canlynol:

  • 1st Ruthin Rainbows
  • St Kentigern Hospice Ruthin Support Group
  • Denbighshire Music Co-operative
  • Menter Iaith Sir Ddinbych
  • Y Bedol – Papur Bro Rhuthun a’r Cylch
  • Meibion Marchan
  • Gŵyl Rhuthun Cyf
  • ReSource Sir Ddinbych CIC
  • Pwyllgor Eisteddfod Pwllglas
  • Clwb Pêl Droed Clawddnewydd
  • Côr Rhuthun
  • Cangen Merched y Wawr Rhuthun
  • Cymdeithas Sioe Rhuthun
  • Clwb Criced Rhuthun
  • Llanfwrog CIC – Canolfan Footgolf Dyffryn Clwyd
  • Cylch Meithrin Rhuthun
  • Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a’r Cylch
  • Gweithgor Taith Gefeillio 2024
  • Cymdeithas Clwb Pel-droed Tref Rhuthun
  • Munchkins yn Ysgol Llanbedr
  • Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Pen Barras

Os am drefnu cyfweliad neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda
Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
mari.williams@grwpcynefin.org 

07970 142 305

Cookie Settings