Asiantaeth gofal a thrwsio yn dychwelyd i Benygroes gan roi “hwb economaidd sylweddol”
Mae asiantaeth sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol wedi dychwelyd at ei gwreiddiau gan roi hwb economaidd i bentref yng Ngwynedd.
Mae’r tîm o 26 o bobl sy’n gweithio i asiantaeth Canllaw yn symud o’u cartref presennol ym Mharc Menai ym Mangor i Benygroes, rhwng Caernarfon a Phorthmadog, lle dechreuodd y cyfan 35 mlynedd yn ôl.
Mae’r sefydliad, is-gwmni cymdeithas dai Grŵp Cynefin, yn cynorthwyo perchnogion tai a thenantiaid mewn tai sector preifat 60 oed a hŷn i fyw mewn cysur, diogelwch a chynhesrwydd trwy eu helpu gyda phob math o welliannau, addasiadau a chyngor.
Dechreuodd yr asiantaeth ei bywyd fel adran o hen gymdeithas dai Cymdeithas Tai Eryri, gan ddarparu gwasanaeth gofal ac atgyweirio yn hen ardal Arfon. Bryd hynny, roedd wedi ei leoli yn Gorffwysfa ar Stryd y Bedyddwyr, Penygroes a phawb yn ei alw yn ‘Gofal a Thrwsio’.
Ers hynny mae wedi esblygu a thyfu i gwmpasu Gwynedd a Môn a’i ailfrandio fel Canllaw.
Ddeng mlynedd yn ôl, daeth yn is-gwmni i Grŵp Cynefin yn dilyn yr uniad rhwng Tai Eryri a chymdeithas dai arall, Cymdeithas Tai Clwyd.
Helpodd Canllaw fwy na 4,000 o bobl y llynedd ac mae’n rhan o rwydwaith o 13 asiantaeth debyg ledled Cymru, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Swyddog Elfyn Owen: “Gallwn roi cyngor a chefnogaeth am ddim i gleientiaid i roi gwybod iddyn nhw pa gymorth sydd ar gael, yn gyntaf i adnabod y gwaith sydd angen ei wneud yn y tŷ, boed yn do sy’n gollwng, trwsio giât yr ardd, ail-wifro’r tŷ, gosod ffenestri newydd, addasiadau yn y tŷ.
“Yn ogystal â’r gwasanaeth gofal a thrwsio lle rydym yn darparu cyngor ac arweiniad, mae gennym fynediad at grantiau sy’n golygu y gallwn wneud rhywfaint o’r gwaith llai ein hunain yn rhad ac am ddim.
“Yn ogystal, mae gennym staff sy’n arbenigo mewn rheoli prosiectau mwy, felly er enghraifft estyniad sydd angen caniatâd cynllunio a chydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Rydym yn codi ffi am y gwaith hwnnw felly bydd yn rhaid i’r cleient naill ai dalu ei hun neu drwy grant.
“Gall y gwaith sy’n cael ei wneud gael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau’r cleientiaid ac mae’r angen am ein gwasanaethau yn cynyddu drwy’r amser oherwydd bod gennym boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae disgwyl i nifer y bobl dros 85 oed ddyblu dros y blynyddoedd nesaf.”
Mae’r 11 o bobl sy’n gweithio i dîm addasiadau’r asiantaeth, Canllaw Addasu, eisoes wedi symud i’w safle newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Penygroes.
Bydd y 15 aelod arall o dîm Canllaw yn adleoli i swyddfeydd Grŵp Cynefin yn y pentref cyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r symudiad wedi cael ei groesawu gan y Cynghorydd Craig ab Iago, sy’n cynrychioli Penygroes ar Gyngor Gwynedd ac sy’n aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.
Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion gwych. Heb os, bydd dychweliad tîm Canllaw i Benygroes yn rhoi hwb economaidd sylweddol i’r ardal ac mae’n arbennig o addas eu bod yn dychwelyd i’r man lle dechreuodd y gwasanaeth gofal a thrwsio flynyddoedd yn ôl.
“Mae Canllaw yn chwarae rhan hynod bwysig wrth alluogi pobl i fyw’n annibynnol ac aros yn eu cymunedau eu hunain mewn cartrefi sy’n ddiogel, yn gynnes a gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn briodol i’w hanghenion.”
Yn ôl Elfyn Owen, roedd y penderfyniad i drosglwyddo’r staff i Benygroes yn siŵr o gael effaith bositif ar yr economi leol.
Dywedodd: “Mae’r ffaith ein bod ni’n mynd i gael mwy o bobl wedi’u lleoli yno yn golygu y bydd mwy o bobl yn gwario mewn siopau lleol a gyda busnesau lleol eraill. Mae hynny’n rhan fawr o’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad i symud i Benygroes, gyda phawb wedi eu lleoli o fewn tafliad carreg i’w gilydd.
“Y ffactor arall oedd bod angen mwy o le storio ar dîm Canllaw Addasu sydd ar gael yn yr uned ddiwydiannol, felly mae’n gwneud synnwyr perffaith ar bob lefel.”
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae’r penderfyniad strategol hwn yn brawf cadarnhaol o’n hymrwymiad parhaus a hirdymor i ardal Penygroes. Mae un o’n dwy brif swyddfa yng nghanol y gymuned sydd mor bwysig i’n hanes a’n dyfodol fel sefydliad.
“Mae dod â Canllaw i Benygroes hefyd yn golygu y byddwn yn gallu hyrwyddo’r gwasanaethau y mae’n eu darparu yn well ac yn dod â nhw hyd yn oed yn agosach at deulu Grŵp Cynefin.”
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Grŵp Cynefin.