Tenantiaid wrth eu bodd yn dathlu’r Nadolig mewn cartrefi newydd

Cafodd grŵp o 21 o bobl hŷn yr anrheg Nadolig perffaith trwy symud i’w cartrefi newydd yn Nyffryn Clwyd.

Symudodd y tenantiaid i’r fflatiau modern ynni effeithlon yng nghynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun, mewn pryd ar gyfer y dathliadau. Dyma ddiwedd y wedd gyntaf o’r cynllun uchelgeisiol i ail-ddatblygu yn llwyr, mewn prosiect gwerth £12.2 miliwn. Mae’n bartneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, a roddodd £7.1 miliwn o’i chronfa Rhaglen Tai Cymdeithasol tuag at y gost gyffredinol. Yr adeiladwyr ydi’r cwmni Cymreig lleol, Read Construction.

Mae’r datblygiad carbon isel wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn Sir Ddinbych ac mae’n cynnwys 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ogystal â’r 21 fflat presennol.

Mae’r cynllun yn ymgorffori ardaloedd cymunedol fel gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.

Bydd yr ail gam i uwchraddio rhan hŷn y cynllun yn cael ei gwblhau yn 2025.

Cafodd uwch-swyddogion o Grŵp Cynefin ynghyd ag aelodau o Gyngor Sir Ddinbych eu tywys o gwmpas y cyfleuster.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn bleser pur ymweld â Llys Awelon a gweld beth mae’r ailddatblygiad rhyfeddol hwn wedi’i gyflawni.

“Mae’r tai modern hyn yn berffaith i ddiwallu anghenion y boblogaeth hŷn yn Sir Ddinbych sy’n flaenoriaeth fawr i’r cyngor.

“Hoffwn ddiolch i Grŵp Cynefin a Read Construction am y gwaith gwych y maen nhw wedi’i wneud ac roedd gweld tenantiaid yn symud i mewn yn destun llawenydd mawr.”

Roedd hefyd yn foment falch i Bennaeth Datblygu Grŵp Cynefin, Arwyn Evans. Meddai: “Roedd mynd ag aelodau o Gyngor Sir Ddinbych o gwmpas Llys Awelon i weld y cynnyrch gorffenedig yn brofiad gwych.

“Maen nhw’n bartneriaid cefnogol iawn yn y prosiect hwn, fel y mae’r holl bartneriaid perthnasol wedi bod. Roedd bob amser yn mynd i fod yn adeilad cymhleth, gyda llawer o ystyriaethau.

“Mae’r cwmni adeiladu, Read, wedi bod yn wych yn cydweithio â staff Grŵp Cynefin ac ymgysylltu â phreswylwyr presennol a oedd yn byw ar y safle yn ystod y gwaith.

“Mae’n wych gweld y tenantiaid mor hapus yn eu fflatiau newydd, a gallu dathlu’r Nadolig mewn amgylchedd mor braf. Bydd 2025 yn gweld cam dau y prosiect, i uwchraddio rhan hŷn y cynllun.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect hwn, o fewn Grŵp Cynefin a’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru am y cydweithio cadarnhaol sydd wedi ein helpu i greu rhywbeth mor arbennig.”

Mae’r gymuned ehangach yn Rhuthun hefyd wedi elwa o’r prosiect.

Cynigiodd cwmni adeiladu Read £18,000 mewn grantiau i grwpiau a chlybiau lleol i wella bywydau pobl sy’n byw yn yr ardal.

Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction: “Mae Read Construction yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn a’r ffordd y mae’r holl bartneriaid wedi ei sefydlu, ei ddylunio a’i adeiladu gan gydweithio i ddarparu cyfleuster preswyl o ansawdd uchel. Bydd y llety gofal ychwanegol gorffenedig yn darparu fflatiau modern, o’r ansawdd uchaf, sy’n ynni effeithlon er budd y gymuned leol.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i wneud cais am fflat yn Llys Awelon gysylltu â Grŵp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 212 ac mae mwy o wybodaeth am Gynlluniau Tai Gofal Ychwanegol eraill Llys Awelon a Grŵp Cynefin yma Tai gofal ychwanegol – Grŵp Cynefin.

Dylai aelodau o’r cyfryngau sydd eisiau gwybod mwy am y cynllun gysylltu  gyda Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin ar mari.williams@grwpcynefin.org.

Cookie Settings