Dathlu gwasanaeth sydd wedi’i ‘wreiddio yn y gymuned’

Mae HWB Dinbych Grŵp Cynefin wedi cael ei ganmol am ddarparu nid yn unig llety i’r rhai sy’n wynebu digartrefedd ond hefyd amrywiaeth o wasanaethau i helpu pobl ifanc i ddod yn fwy annibynnol a newid eu bywydau.

Roedd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ymhlith y siaradwyr mewn digwyddiad i nodi 10fed pen-blwydd HWB Dinbych, canolfan gymunedol yn Ninbych, sy’n cynnwys tai â chymorth Yr Hafod.

Dywedodd: “Mae sicrhau bod pobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a’u bod yn meddu ar y sgiliau a’r offer y mae angen arnynt i ragori, yn elfen hanfodol o atal digartrefedd yn y dyfodol.

“Mae’r gwaith a wneir gan Yr  Hafod a HWB Dinbych yn y gymuned yn rhoi pobl ifanc sy’n profi digartrefedd mewn cysylltiad ag  amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan helpu i atal a thorri cylch digartrefedd.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, a thrwy weithio gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel, sy’n diwallu eu hanghenion ac sy’n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus.”

Hefyd yn siarad roedd dau o gyn-drigolion Yr Hafod y trawsnewidiwyd eu bywydau gan y gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r Hafod yn cynnig chwe fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel a chefnogaeth 24 awr, gan helpu preswylwyr i ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth a chael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Roedd heddiw yn bwysig, nid yn unig i ddathlu, ond i bwyso a mesur yr hyn sydd wedi’i gyflawni.

“Clywsom gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, a gan y Cynghorydd Rhys Thomas o Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi cefnogi’r prosiect ar hyd y blynyddoedd.

“Clywsom gan aelodau o staff Grŵp Cynefin, sy’n angerddol am y gwasanaeth a ddarparwn. Ac yn bwysicach fyth, clywsom gan ddau berson y trawsnewidiwyd eu bywydau gan y cyfle a roddwyd iddyn nhw drwy fynediad at gartref a gwasanaethau… Diwrnod i ysbrydoli.”

Mae HWB Dinbych yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Prosiect Ieuenctid Dinbych, Coleg Llandrillo a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych. Mae’n darparu cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a llesiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, gweithdai, a chefnogaeth ar gyfer mentrau hunangyflogaeth. Mae hefyd yn cynnal gweithgareddau cymunedol amrywiol, fel dosbarthiadau ffitrwydd, clybiau ieuenctid, a sesiynau celf a chrefft.

Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau neu astudiaethau achos, cysylltwch â:

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin.

Mari.Williams@grwpcynefin.org 

07970 142 305

Cookie Settings