Grŵp Cynefin yn recriwtio ar gyfer dyfodol cyffrous

 

Mae Grŵp Cynefin yn cymryd camau cyffrous tuag at gyfnod newydd ac yn recriwtio ar gyfer ystod eang o swyddi penaethiaid.

Mae hyn yn dilyn penodi pedwar cyfarwyddwyr newydd ym mis Hydref i weithio ochr yn ochr â Mel Evans, Prif Weithredwr Grwp Cynefin.

Gydag uwch-dîm arweinyddiaeth newydd, bydd yr ystod o benaethiaid, y mwyafrif yn swyddi newydd sbon, yn cefnogi gweledigaeth newydd a chynllun corfforaethol pum mlynedd a fydd yn cael ei lawnsio yn fuan yn 2025.

Mae’r rhain oll yn gamau cadarnhaol i Grŵp Cynefin, sy’n rheoli 4800 o dai ac asedau ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae’r swyddi newydd sy’n cael eu hysbysebu ar y funud yn cynnwys Pennaeth Gwella Busnes, Pennaeth Cyllid, Pennaeth Rheoli Asedau, Pennaeth Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu a Phennaeth Llywodraethu.

Byddant yn cefnogi uwch-dim arweinyddiaeth ar ei newydd wedd, sydd eisoes ar waith.

Nerys Price-Jones yw’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant newydd, rôl newydd o fewn y cwmni, yn goruchwylio adnoddau dynol, mentrau cymunedol, gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu a marchnata.

Penodwyd Nia Owen, cyn Bennaeth Cyllid Grŵp Cynefin, yn barhaol i rôl Cyfarwyddwr Adnoddau, swydd y bu’n ei gwneud dros dro. Cafodd Sion Roberts, Pennaeth Asedau presennol Grŵp Cynefin, ddyrchafiad i rôl Cyfarwyddwr Eiddo a Buddsoddi, sydd hefyd yn gyfarwyddiaeth newydd o fewn y grŵp. Mae Sharon Morris yn parhau am gyfnod sefydlog o 18 mis fel Cyfarwyddwr Tai.

Mae Elfyn Owen, Prif Swyddog Canllaw, a Lynda Colwell, Prif Swyddog Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, hefyd yn aelodau o’r uwch-dîm arweinyddiaeth.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Mae Grŵp Cynefin ar daith gyffrous o drawsnewid, does dim amheuaeth am hynny. Rydw i yn hynod o falch o’r cyfarwyddwyr newydd a benodwyd, sy’n golygu bod gennym dîm arweinyddiaeth deinamig a thalentog. Mae hyn yn naturiol yn creu egni ac uchelgais newydd o fewn y grŵp.

“Yn dilyn y penodiadau hyn, fe aethom ati i weld yr hyn oedd ei angen i greu gwir wahaniaeth a gwireddu trawsnewid o fewn y grŵp, a bydd yr ystod hon o swyddi penaethiaid yn gwneud hyn, gan atgyfnerthu a chefnogi gwaith y tîm arweinyddiaeth newydd.

“Rydym yn y broses o greu cynllun corfforaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan ei gynllunio ar y cyd gyda’n staff, tenantiaid a chwsmeriaid. Yn ddi-os, mae’n gyfnod cyffrous yn Grŵp Cynefin a rydym yn gobeithio denu unigolion talentog ar gyfer y swyddi penaethiaid hyn.”

Mae’r holl swyddi ar wefan Grŵp Cynefin Swyddi gwag – Grŵp Cynefin.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â: 

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

07970 142 305

Cookie Settings