Gwasanaeth diolchgarwch yn dod â chenedlaethau at ei gilydd yn y Bala
Mae gweithgareddau pontio’r cenedlaethau yn rhan bwysig o adeiladu cymunedau gwydn ac oed-gyfeillgar ledled Cymru. Gall dod â phlant a phobl hŷn at ei gilydd helpu i greu ymdeimlad cryfach o gymuned a lleihau unigedd. Mae prosiectau pontio’r cenedlaethau, gyda chefnogaeth arweinwyr oed-gyfeillgar a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu oddi wrth ei gilydd a ffurfio perthnasoedd ystyrlon.
Roedd yr ysbryd cymunedol hwn yn amlwg yn ystod gwasanaeth diolchgarwch yng nghynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin, Awel y Coleg, Y Bala. Croesawodd trigolion Awel y Coleg blant o Ysgol Godre’r Berwyn atynt a chawsant gyfle i rannu straeon, canu, a mwynhau cwmni ei gilydd. Mae hyn yn rhan o berthynas hirsefydlog rhwng Awel y Coleg a’r ysgol gyfagos.
Mynychodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, y digwyddiad, a meddai:
“Mae gennym draddodiad balch yng Nghymru o gymunedau sy’n cefnogi ei gilydd, ac roedd hi’n hyfryd gweld cenedlaethau’n dod at ei gilydd ar gyfer y gwasanaeth diolchgarwch.
“Rydym angen lle i feithrin perthnasoedd a rhannu gwybodaeth rhwng cenedlaethau er mwyn sicrhau bod gennym gymunedau bywiog a chefnogol lle gall pobl deimlo’n gadarnhaol am heneiddio.
“Gall gweithgareddau pontio’r cenedlaethau fel y rhain newid y ffordd mae plant yn gweld pobl hŷn ac yn meddwl am heneiddio, sydd mor bwysig wrth wneud ein cymunedau’n gryfach.”
Sefydlwyd Awel y Coleg, sydd â 30 o fflatiau, gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Mae’n un o bum cynllun gofal ychwanegol sydd gan y gymdeithas dai ar draws Gwynedd, Sir Ddinbych, ac Ynys Môn, ac yn creu cyfleoedd i bobl hŷn fyw yn hollol annibynnol gan aros yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau Grŵp Cynefin:
“Mae’r grŵp yn hynod falch o’r gweithgareddau a gynhelir o fewn ein cynlluniau sy’n dod â phobol hŷn ac aelodau iau’r gymuned i gysylltiad cyson gyda’i gilydd. Mae’n gyfle i rannu profiadau bywyd, annog parch, mwynhau egni a hwyl ei gilydd a chreu chysylltiadau hyfryd rhwng yr hŷn a’r ifanc.”
Dywedodd Mirain Llwyd Roberts, Arweinydd Oed Gyfeillgar Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn ymfalchïo yn yr holl waith pontio’r cenedlaethau sy’n digwydd ar draws Gwynedd. Mae’n un o’n prif flaenoriaethau yn ein gwaith oed-gyfeillgar i weithio a chefnogi partneriaid i fedru cynnig cyfleoedd sy’n dod a phobl o bob oed at ei gilydd er mwyn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn a sydd dros amser yn fwy oed gyfeillgar.”
Dywedodd Dilwyn Morgan, Pencampwr Oed Gyfeillgar Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant:
“Mae Awel y Coleg ac Ysgol Godre’r Berwyn yn esiampl i ni gyd am y posibiliadau sydd yno trwy ddod a phobl ynghyd. Mae’n gyfle i’r plant ddod i ‘nabod pobl hŷn yr ardal a dysgu mwy am hanes yr ardal ac yn gyfle i bobl hŷn barhau i fod yn ran annatod o’n cymdeithas.”