Grŵp Cynefin yn camu i gyfnod newydd gyda thîm arweinyddiaeth newydd

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin, wedi penodi tri chyfarwyddwr newydd i’w uwch dîm arweinyddiaeth. Daw hyn yn dilyn penodi Mel Evans fel ei Brif Weithredwr newydd yn gynharach yn y flwyddyn.

Nerys Price-Jones yw’r Cyfarwyddwr Pobl newydd, rôl newydd o fewn y cwmni, yn goruchwylio adnoddau dynol, mentrau cymunedol, gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu a marchnata.

Mae gan Nerys fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn uwch swyddi  AD mewn amrywiol feysydd, o’r diwydiant adeiladu i’r diwydiant fferyllol. Yn wreiddiol o Rhuthun, ac yn dal i fyw yn yr ardal, mae Nerys yn ymuno â Grŵp Cynefin o gwmni cynnyrch amaeth o Wrecsam, Platts.

Mae Nia Owen, cyn Bennaeth Cyllid Grŵp Cynefin,  wedi cael ei phenodi’n barhaol i rôl Cyfarwyddwr Adnoddau, swydd y bu’n ei gwneud dros dro. Mae Sion Roberts, Pennaeth Asedau presennol Grŵp Cynefin, wedi cael dyrchafiad i rôl Cyfarwyddwr Eiddo a Buddsoddi, sydd hefyd yn gyfarwyddiaeth newydd o fewn y grŵp.

Byddant i gyd yn camu i’w rolau newydd yr wythnos yma.

Mae Sharon Morris yn parhau am gyfnod sefydlog o 18 mis fel Cyfarwyddwr Tai.

“Mae hwn yn gam hynod gadarnhaol i Grŵp Cynefin,” meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin.

“Mae’r penodiadau hyn yn adlewyrchu uchelgais y grŵp wrth i ni gychwyn ar daith o drawsnewid. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n creu cynllun corfforaethol ar gyfer y pedair blynedd nesaf a bydd uwch dîm arweinyddiaeth newydd yn ysgogi ac yn ysbrydoli newid.

“Mae Grŵp Cynefin yn dathlu ei 10fed pen-blwydd eleni ac rydym yn edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf ac ymhellach gydag egni a gweledigaeth. Mae’r penodiadau yma yn ganolog i’n taith drawsnewid gyffrous, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i’n tenantiaid, cwsmeriaid, staff, cymunedau a phartneriaid.”

Meddai Tim Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin:

“Fel Cadeirydd, rwy’n hyderus bod y penodiadau rhagorol hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth y Bwrdd ar gyfer Grŵp Cynefin. Rwy’n dymuno’n dda iddynt i gyd yn eu rolau ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn gwneud cyfraniad pwysig at ddyfodol llwyddiannus y cwmni.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

07970 142 305

Cookie Settings