Gosod sylfeini ar gyfer cartrefi lleol yng Ngwynedd
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £10 miliwn a fydd yn darparu 41 o gartrefi teuluol ynni effeithlon a fforddiadwy i bobl leol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.
Mae’r cynllun, ar safle Canol Cae yng nghanol y dref, yn dod â dwy gymdeithas dai flaenllaw yng ngogledd Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Cynefin, at ei gilydd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd fel rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd sy’n anelu at gyrraedd targed Cyngor Gwynedd o adeiladu 700 o dai cymdeithasol ar draws y sir erbyn 2026/27.
Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes (Bala) sydd eisoes yn gwneud cynnydd da ar y safle.
Bydd y datblygiad yn darparu cyfuniad o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely, byngalo arbenigol tair ystafell wely a phedair ystafell wely a fflatiau un ystafell wely. Mae’r ystod o gartrefi sy’n cael eu cynnig yn ganlyniad ymgynghori eang gyda’r gymuned leol gan Hwyluswyr Tai Gwledig, i ddeall yr anghenion tai lleol. Bydd y cartrefi newydd yn hynod effeithlon o ran ynni, wedi’u hadeiladu yn ddefnyddio technolegau gwyrddach a dyluniadau arloesol.
Bydd y tai yn cael eu cwblhau erbyn diwedd 2025 a byddant yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd a Tai Teg.
Mae’n wych gweld bod y safle yn fwrlwm o weithgarwch, gyda Williams Homes yn gwneud cynnydd mawr,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin. “Mae’r datblygiad yn gam bras tuag at ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i’r gymuned leol ac yn ganlyniad cydweithio â’n partneriaid ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Mae gwaith Hwyluswyr Tai Gwledig wedi bod yn allweddol, gan weithio’n agos gyda chymuned leol Penrhyndeudraeth, i sicrhau ein bod yn adeiladu’r cyfuniad cywir o gartrefi sydd eu hangen ar bobl leol. Mae darparu cartrefi o safon i wella bywydau a chynnal ein cymunedau gwledig i gyd yn amcanion allweddol Grŵp Cynefin, ac mae’r datblygiad hwn yn enghraifft berffaith o sut rydym yn cyflawni hyn.”
Meddai Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:
“Dyma gynllun newydd cyffrous yng Ngwynedd, a fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni ac a fydd yn mynd i’r afael ag angen allweddol am dai yn yr ardal leol. Ein cenhadaeth yw trechu tlodi a sicrhau bod gan bawb yng ngogledd Cymru fynediad at dai o ansawdd rhagorol. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ar y cynllun hwn i ateb y galw lleol yn ogystal â hybu cyflogaeth leol.”
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae darparu mwy o gartrefi i bobl leol yn brif flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd, ac rwy’n croesawu’r newyddion gwych bod gwaith wedi cychwyn ar y datblygiad tai hwn ym Mhenrhyndeudraeth. Mae’r Cyngor wrthi’n gweithio gyda chymdeithasau tai i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd, gan ddangos ymrwymiad ar y cyd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus yn ein sir.
“Mae hefyd yn galonogol gweld bod effeithlonrwydd ynni yn elfen allweddol o ddyluniad y tai hyn, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y cartrefi hyn yn ei gael ar y gymuned. Nid tai newydd yn unig yw’r rhain, ond dyfodol mwy disglair i nifer o unigolion a theuluoedd yn yr ardal sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gartrefi tymor hir a fforddiadwy yn eu cymunedau ar hyn o bryd.”
Mae pob cartref yn cael ei adeiladu yn gartref gydol oes ac wedi eu cynllunio I gael eu haddasu’n hawdd i anghenion newidiol y preswylwyr, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am fwy o amser.
Dywedodd Owain Williams, Cyd-reolwr Gyfarwyddwr Williams Homes (Bala):
“Rydym yn falch iawn o fod yn adeiladu cartrefi carbon isel arloesol yng nghanol Penrhyndeudraeth, gan gefnogi swyddi lleol ac adeiladu cartrefi i’r gymuned leol.”
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Cartrefi a Mannau Hardd Llywodraeth Cymru.
Wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau arloesol, mae’r cartrefi newydd hyn yn hynod effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi sydd wedi’u lleoli i fanteisio cymaint a phosib ar solar a golau dydd naturiol
- ‘Dulliau Modern o Adeiladu’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
- Deunyddiau wedi eu cyflenwi gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw ôl troed carbon yn isel.
Bydd y tai hyn yn cael eu dyrannu i’r rhai sydd ar Gofrestr Tai Gwynedd a chofrestr Tai Teg.
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin 07970 142 305
Neu Emma Hanson, Rheolwr Prosiect Marchnata, ClwydAlyn Emma.Hanson@clwydalyn.co.uk 07717590412