05 Gor 2024

Gwobrwyo Grŵp Cynefin am roi llwyfan i lais eu tenantiaid

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi ennill gwobr arbennig am eu gwaith i sicrhau bod llais tenantiaid yn ganolog wrth siapio eu gwasanaethau a pholisïau. Enillodd Tîm Mentrau Cymunedol y grŵp wobr gyntaf yng ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru yng Nghaerdydd (nos Fercher, 3 Gorffennaf). Good Practice Award Winners 2024: (tpas.cymru) Daethant i’r brig yng […]

12 Meh 2024

Swyddi cefnogi newydd yn natblygiad Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun

Wrth i gam cyntaf ailddatblygu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun agosáu at ei derfyn, mae’r ymgyrch recriwtio am staff wedi dechrau. Mewn partneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych, mae ailddatblygu’r safle yn golygu adeiladu bloc newydd sbon, gan ychwanegu 25 o fflatiau hunangynhwysol at y 21 uned sydd eisoes yno. […]

17 Mai 2024

Mudiadau lu yn manteisio o grantiau Grŵp Cynefin

Mae 21 o fudiadau yn ardal leol Rhuthun wedi derbyn hwb ariannol o ganlyniad i ddatblygiad cynllun tai gofal ychwanegol yn y dre. Maen nhw yn amrywio o glwb criced a chôr, i ysgol feithrin ac eisteddfod (rhestr llawn ar waelod y datganiad). Ddechrau’r flwyddyn, lansiodd cymdeithas dai Grŵp Cynefin a Read Construction gronfa gwerth […]

09 Mai 2024

Grŵp Cynefin yn adennill ei statws o gydymffurfiaeth

Mae statws rheoleiddiol Grŵp Cynefin wedi ei adolygu, cyhoeddodd Rheoleiddiwr Tai Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Iau 9 Mai). Bellach mae’r gymdeithas dai yn cydymffurfio (melyn) ar ddwy safon, Llywodraethu (gan gynnwys Gwasanaethau Tenantiaid) a Hyfywedd Ariannol. Cafodd y dyfarniad ei is-raddio y llynedd, yn dilyn adolygiad mewnol o rai rhannau o’r busnes a hunan-gyfeiriad at […]

03 Mai 2024

Grŵp Cynefin yn penodi Prif Weithredwr

Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Melville Evans yn Brif Weithredwr. Mae Mel wedi bod yn Brif Weithredwr Dros Dro, yn y gymdeithas dai sy’n berchen ar ac yn rheoli tua 4,600 o dai ledled gogledd Cymru a Phowys, ers y 12 mis diwethaf. Yn Gyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin yn flaenorol, ymunodd Mel Evans […]

28 Maw 2024

Recriwtio ar waith am Brif Weithredwr Grŵp Cynefin

Mae’r broses ar waith i ddod o hyd i Brif Weithredwr i arwain y grŵp i’w gyfnod nesaf o dwf a datblygiad. Bydd y Prif Weithredwr newydd yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi cynllunio strategol, goruchwylio newid trawsnewidiol, a gwireddu potensial y grŵp i’r dyfodol. Mae cefnogi cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig […]

28 Chw 2024

Grŵp Cynefin yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i droi adeiladau gwag yn gartrefi

Mae Grŵp Cynefin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, wedi adfywio pedwar eiddo gwag yng Ngwynedd fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chynnal cymunedau gwledig. Mae’r tai, ym Mhorthmadog, Trefor, Penrhosgarnedd a Brynrefail, wedi cael eu trawsnewid o eiddo gwag i gartrefi teuluol modern, ynni-effeithlon a hygyrch. Mae’r gwaith yn […]

08 Chw 2024

Ceisiadau ar agor ar gyfer comisiwn celf cymunedol cyffrous!

Fel rhan o ailddatblygiad Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn chwilio am artist neu artistiaid lleol i greu darn unigryw o gelf i’w fwynhau gan y trigolion, y staff ac ymwelwyr. Mae Grŵp Cynefin yn galw ar artistiaid o bob disgyblaeth i wneud cais am y comisiwn […]

07 Chw 2024

Rhybudd Oren!

Mae tywydd oer ar y ffordd gyda rhybudd oren am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o’r gogledd ddydd Iau. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd a Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales a chadwch yn ddiogel. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda’n staff os bydd y […]

23 Ion 2024

Datblygiad Grŵp Cynefin yn ennill gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn rheolaeth adeiladu

Mae datblygiad tai cymdeithasol gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, a adeiladwyd gan gwmni adeiladu Cymreig Gareth Morris Construction, wedi ennill gwobr fawr ledled y DU. Enillodd cynllun tai Llety’r Adar ym Methesda, Gwynedd, wobr gyntaf am Ddatblygiad Bach Tai Cymdeithasol yng  Ngwobrau Rhagoriaeth Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) dros y penwythnos. Mynychodd mwy na 900 […]

Cookie Settings