Gwasanaeth cam-drin domestig gogledd Cymru yn gweld cynnydd o 77% yn y galw
Mae’r 25ain o Dachwedd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn pan fydd pobl ledled y byd yn gwisgo rhuban gwyn i ddangos eu hymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n profi cam-drin domestig, yn nodi’r diwrnod drwy dynnu sylw at y twf syfrdanol yn y galw am y gwasanaethau hyn.
Meddai Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel: “Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn yw #ChangeTheStory a dyma’n union beth mae ein gwasanaethau yn helpu’r rhai sydd wedi trechu cam-drin domestig i’w wneud, sef newid eu stori.
Rydym wedi gweld cynnydd heb ei debyg yn y galw am y gwasanaethau rydyn ni yn eu darparu yn Ynys Môn a Gwynedd. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd fe helpon ni 165 o bobl yn eu cartrefi eu hunain a oedd yn dioddef camdriniaeth. Y ffigwr hwnnw eleni yw 293. Mae hyn yn gynnydd o 77.6% mewn blwyddyn.
“Dyma un effaith yr argyfwng costau byw. I ni, y broblem yw bod ein hadnoddau yn gyfyngedig hefyd. Dydyn ni heb gael cynnydd yn y cyllid i ddarparu’r gwasanaethau hyn ers nifer o flynyddoedd, felly bob blwyddyn mae’n rhaid i ni wneud mwy gyda llai. Mae bellach yn mynd yn anghynaladwy. Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu menywod a merched i newid eu stori ond er mwyn gwneud hynny’n effeithiol, mae’n rhaid i ni gael ein hariannu’n ddigonol.”
Dywed un o oroeswyr Gorwel bod y gefnogaeth wedi achub ei bywyd:
Mae’r gwasanaethau yn amhrisiadwy,” meddai Jen. “Mi wnaeth fy ngweithiwr cefnogi achub ‘y mywyd i. Mi helpodd fi i gymryd rheolaeth yn ôl a dechrau sgwennu fy stori fy hun. Faswn i ddim wedi gallu gwneud hyn hebddi hi.
Mae Joyce Watson, yr AS dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn yng Nghymru a hi yw sylfaenydd grŵp gwrth-fasnachu mewn pobl y Senedd. Dywed Ms Watson: “Rwy’n cymeradwyo Gorwel am y gwaith maen nhw’n ei wneud i gefnogi goroeswyr cam-drin domestig. Mae’r ffigurau hyn yn frawychus ac yn syml, nid ydynt yn dderbyniol. Profodd 1.7 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. Mae’r patrwm hwn o drais yn niweidio teuluoedd a chymunedau ac yn gallu rhaeadru trwy genedlaethau. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth newid y stori, a rhaid i ni beidio â stopio nes y gall pawb fyw heb ofn.”
Yn anffodus, mae llawer o sefydliadau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnal ymgyrch #HousingMattersWales i dynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd.
Dywed Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru: “Mae’r mwyafrif o ddarparwyr cymorth ar draws Cymru yn adrodd cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau. Mae costau darparu gwasanaethau wedi cynyddu 11% eleni, ac eto mae’r cyllid wedi gostwng £24 miliwn mewn termau real ers 2012.
“Mae 75% o ddarparwyr cymorth yn sybsideiddio contractau sydd i fod i gael eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai, sy’n gwbl anghynaladwy. Mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r Grant Cymorth Tai i sicrhau y gall y gwasanaethau hanfodol hyn barhau i ddarparu’r cymorth hwn sy’n achub bywydau i bobl ledled Cymru.”
Mae Gorwel yn cael ei gomisiynu gan gynghorau Môn a Gwynedd i ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig. Dywed llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan Gorwel, yn cynnig cefnogaeth hanfodol i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig yn y sir. Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, mae’r Cyngor yn sefyll mewn undod â’r ymgyrch yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched. Yng Ngwynedd mae mater digartrefedd ac effaith gynyddol yr argyfwng costau byw wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chysylltiad agos a chynnydd mewn ffigyrau trais domestig. Mae hyn yn amlygu’r rôl hanfodol y mae gwasanaethau cymorth yn ei chwarae wrth helpu’r rhai mewn sefyllfaoedd bregus.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn, Fôn Roberts: “Mae ein staff wedi ymrwymo i weithio mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid i fynd i’r afael â mater cam-drin domestig a diwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sy’n wynebu sefyllfa mor ddinistriol ar draws yr Ynys.”
Mae Jen yn enghraifft o bwysigrwydd y gwasanaethau hyn i fenywod. Pan ofynnwyd iddi beth oedd ei chyngor i fenywod eraill, mae’n dweud:
Paid gadael i ofn dy stopio di. Coda’r ffôn a mi fydd y gefnogaeth yna i newid dy fywyd. Ro’n i’n teimlo fel aderyn wedi colli ei hadenydd. Mi helpodd Gorwel fi i wella a rŵan dw i’n falch o allu hedfan.
Neges gref ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn 2023 sy’n anelu i newid storïau menywod a merched.