Grŵp Cynefin yn penodi Cadeirydd newydd i’w Fwrdd Rheoli
Mae Grŵp Cynefin wedi cadarnhau mai Tim Jones yw Cadeirydd newydd ei Fwrdd Rheoli.
Mae Tim yn dod â phrofiad helaeth i’r grŵp wedi dal swyddogaethau amrywiol ar fyrddau yn genedlaethol ac ar lefel y DU, ac arbenigedd mewn gweithio gyda rhanddeiliaid o ystod eang o feysydd.
Mae’n olynu Carys Edwards, daeth i ddiwedd ei thymor tair blynedd fel Cadeirydd yr wythnos diwethaf.
Cafodd penodiad Tim ei gadarnhau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cwmni yr wythnos diwethaf. Yn siaradwr Cymraeg, sy’n byw yn Llanbedr DC, Rhuthun, ar hyn o bryd, fo yw Cadeirydd Bwrdd Rheoli Canllaw, is-gwmni Grŵp Cynefin.
Mae Grŵp Cynefin yn berchen ar ac yn rheoli 4,000 o gartrefi mewn chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys. Mae ganddo hefyd ddau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, ac uned fusnes Gorwel, sy’n darparu gwasanaethau ym maes cam-drin domestig ac atal digartrefedd.
Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Dros Dro Grŵp Cynefin: “Hoffwn yn gyntaf ddiolch i Carys Edwards sydd bellach wedi dod i ddiwedd ei chyfnod fel Cadeirydd ac Aelod o’r Bwrdd, am ei blynyddoedd o wasanaeth i Grŵp Cynefin.
“Mae Tim yn benodiad ardderchog i’r Grŵp. Bydd ei brofiad a’i weledigaeth yn ein helpu i symud ymlaen yn gadarnhaol a gydag egni.”
Ychwanegodd Tim: “Rwy’n hynod o falch o gael fy nghadarnhau fel Cadeirydd newydd. Mae fy nghysylltiad â’r grŵp yn mynd yn ôl sawl blwyddyn ac rydw i yn adnabod ei werthoedd a’r cyfraniad enfawr y mae wedi’i wneud i’r gymuned. Y flaenoriaeth i mi yw sicrhau bod Grŵp Cynefin yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Rheoli cryf a chadarn, fel ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n tenantiaid a chwsmeriaid.
“Rydw i hefyd am sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyflogwr gwych, gan gefnogi a datblygu staff a denu talent newydd.
“Mae hwn yn gyfnod o newid i Grŵp Cynefin ac rwy’n edrych ymlaen at arwain y Bwrdd wrth i ni anelu tuag at ein carreg filltir deng mlynedd y flwyddyn nesaf. Mae gen i ffydd yn y tîm yma ac rydw i’n credu’n gryf y byddwn ni’n cyflawni pethau gwych.”
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Mari Williams ar mari.williams@grwpcynefin.org neu 07970 142 305.