Bryn Ellis yn sefyll i lawr fel Cyfarwyddwr Adnoddau Grŵp Cynefin
Mae Cyfarwyddwr Adnoddau Grŵp Cynefin, Bryn Ellis, wedi penderfynu gadael ei rôl ar ôl rhoi dros 23 mlynedd o wasanaeth fel Cyfarwyddwr Gweithredol i Grŵp Cynefin ac un o’i ragflaenwyr, Cymdeithas Tai Clwyd, er mwyn canlyn heriau newydd.
Hoffai pawb yn Grŵp Cynefin ddiolch i Bryn am ei gyfraniad ffyddlon i’r cwmni dros y cyfnod hwnnw a dymunwn bob llwyddiant iddo i’r dyfodol.
Bydd Nia Owen, cyn Bennaeth Cyllid Grŵp Cynefin, yn parhau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro.