Newid i’n Dyfarniad Rheoleiddio
Yn ddiweddar, cynhaliodd Grŵp Cynefin adolygiad mewnol o rai rhannau o’r busnes – gan gynnwys rheoli asedau a sut rydym yn cadw cofnodion.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom y penderfyniad i gyfeirio ein hunain at y Rheoleiddiwr yn Llywodraeth Cymru gan ei fod yn glir nad oedd gennym y cofnodion a’r broses gywir i ddarparu sicrwydd ein bod yn cydymffurfio â rhai safonau.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Rheoleiddiwr i ddatblygu cynllun a gwneud newidiadau i’n proses fel y gallwn ddangos tystiolaeth o gydymffurfio lle bo angen, gan gynnwys o gwmpas diogelwch a Safon Ansawdd Tai Cymru.
Mae’r Rheoleiddiwr wedi cadarnhau eu bod yn newid ein statws i gydymffurfiaeth (melyn) ar hyfywedd ariannol a diffyg cydymffurfio (ambr) ar gyfer llywodraethu a gwasanaethau tenantiaid.
Er ein bod yn naturiol yn siomedig, rydym yn deall rhesymau’r Rheoleiddiwr ac rydym wedi ymrwymo’n llawn i weithio gyda nhw i adeiladu ar y newidiadau yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith.
Ni ddylai tenantiaid boeni. Bydd gwasanaethau yn ein cymunedau yn parhau fel arfer a diogelwch yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
Mae’r dyfarniad cyfan yma
Gall tenantiaid neu gwsmeriaid sydd ag unrhyw gwestiwn gysylltu â Grŵp Cynefin ar e-bost at post@grwpcynefin.org neu ffonio 0300 111 2122.
Dylai ymholiadau gan y cyfryngau fynd at Mari.Williams@grwpcynefin.org neu 07970 142 305.