Partneriaid yn dod at ei gilydd i nodi dechrau gwaith gwerth £12.2 miliwn yn Rhuthun
Daeth holl bartneriaid cynllun gwerth £12.2miliwn i ehangu tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun, at ei gilydd i dorri tywarchen i nodi dechrau’r gwaith.
Bu Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych Graham Boase, Cyfarwyddwr Read Constructions Wiliam Jones, a swyddogion allweddol eraill sy’n ymwneud â’r prosiect uchelgeisiol, yn dathlu’r seremoni ar y safle ger canol tref Rhuthun.
Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd yn cynnig 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ychwanegol i’r 21 fflat presennol, o fewn adeilad pwrpasol gydag ardaloedd cymunedol megis gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.
Mae’r prosiect yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â’r cyfleuster presennol, gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i’r preswylwyr a’r staff, ac yn y pen draw, diweddaru’r cyfleuster hwnnw i’r un safon uchel, carbon isel.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Gyda chynlluniau yng Nghaergybi, Y Bala, Porthmadog, Dinbych a Rhuthun, mae Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn cynnig ffordd annibynnol o fyw i drigolion, gyda chefnogaeth a gofal ychwanegol pe bai angen.
Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:
“Rydym yn falch o allu gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf yn Llys Awelon, Rhuthun. Bydd yn adnodd modern a gwerthfawr i’r ardal. Mae Read Constructions wedi chwarae rhan o’r dechrau oherwydd cymhlethdod y prosiect ac mae’n profi i fod yn gydweithio cynhyrchiol, gyda’r holl dimau’n gweithio’n arbennig o dda i wireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn.
“Mae prosiectau o’r fath yn dod â rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol ac egwyddorion pwysig – arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnoleg i gyflawni carbon isel neu ddi-garbon, a’n gallu i ddod â phartneriaid ynghyd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er budd ein cymunedau.”
Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol y Cabinet- Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rydym yn falch iawn o weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig â Llys Awelon, Rhuthun, i helpu a chefnogi trigolion Sir Ddinbych.
“Mae’n fraint wirioneddol nodi dechrau prosiect mor bwysig a buddiol a fydd yn cefnogi ein trigolion trwy roi’r modd iddynt fyw’n annibynnol a darparu tai o ansawdd uchel iddynt sy’n cwrdd ag ystod eang o anghenion.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn wedi’i gwblhau a gweld y manteision a ddaw yn ei sgil i’n preswylwyr.”
Meddai Wiliam Jones, Cyfarwyddwr Read Constructions:
“Fel cwmni o Ogledd Ddwyrain Cymru, mae Read yn falch iawn o fod wedi dechrau gweithio ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf ar gyfer Grŵp Cynefin. Mae’r ailddatblygiad gwerth £12m hwn o’u safle yn Llys Awelon yn Rhuthun â phwyslais lleol cryf gyda’r tîm dylunio lleol a phartneriaid cadwyn gyflenwi. Drwy gydol y cynllun, mae Read wedi ymrwymo i gefnogi’r dref leol a’r cymunedau cyfagos drwy ail-fuddsoddi’r bunt leol a chyfleoedd gwaith.”
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin.
07834845512