Grŵp Cynefin i lywio cynllun peilot tai fforddiadwy’r Llywodraeth yn Nwyfor
Mae Grŵp Cynefin, sy’n arbenigo ym maes datblygu tai mewn cymunedau gwledig, yn falch o fod yn rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru yn Nwyfor i geisio dod o hyd i ddatrysiadau i gartrefu pobl leol yn yr ardal.
Bydd ‘Uwch Swyddog Tai Cymunedol’ yn cael ei benodi gan Grŵp Cynefin am dair blynedd i weithio gyda chymunedau’r ardal i gasglu gwybodaeth am yr angen am dai, i hyrwyddo tai dan arweiniad y gymuned a chreu prosiectau tai cydweithredol fydd o fudd i bawb gan ddilyn patrwm ymddiriedolaeth gymunedol.
Rôl bwysig arall i’r Uwch Swyddog newydd fydd cydweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Chyngor Gwynedd i geisio diwallu’r angen sydd yn yr ardal am gartrefi i bobl leol. Bydd hefyd yn datblygu’n gyfrwng ar gyfer hybu tai dan arweiniad y gymuned fel ateb posibl.
Ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai
Mae’r gwaith yn rhan o gyd-destun ehangach Llywodraeth Cymru i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu ardaloedd gwledig yng Ngwynedd a thu hwnt sy’n gweld pobl leol yn cael eu prisio o’r farchnad dai.
Yn ôl ffigyrau Hwyluswyr Tai Gwledig Grŵp Cynefin, mae’r canran o bobl sydd methu fforddio â phrynu tŷ yn Nwyfor mor uchel â 95 y cant yn Abersoch, 79 y cant yn Aberdaron a 68 y cant ym Morfa Nefyn. Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru, 5098, sef un i bob deg o dai y sir.
Wrth gydweithio’n agos â chymunedau ardaloedd Pen Llŷn a thu hwnt fel rhan o’r cynllun peilot, bydd yr Uwch Swyddog Tai Cymunedol newydd yn cynnal sgyrsiau ar lawr gwlad gyda chynghorau cymuned, cymdeithasau a sefydliadau lleol. Prif fwriad y trafodaethau fydd i adnabod safleoedd newydd o dir allai gael eu cyflwyno fel datblygiadau posib ar gyfer tai fforddiadwy. Bydd y swyddog hefyd â’r cyfrifoldeb o ymgysylltu â gwasanaethau tai a chynllunio Gwynedd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, datblygwyr a gwerthwyr tai.
Canolfan Cydweithredol Cymru – partner pwysig
Partner pwysig arall yn y rôl fydd Canolfan Cydweithredol Cymru. Drwy’r Rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi bydd y swyddog yn cydlynu’r broses o archwilio tai, dan arweiniad y gymuned, fel ateb ymarferol i fynd i’r afael ȃ’r angen am dai yn Nwyfor. Elfen bwysig o’r gwaith fydd sicrhau bod data cywir ar gael a’r cyfle i lenwi bylchau mewn gwybodaeth am ail gartrefi a fforddiadwyedd o fewn cymunedau.
Mae Grŵp Cynefin wedi darparu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd i dros 8,000 o bobl yn siroedd y gogledd a gogledd Powys ers ei sefydlu yn 2014. Mae darparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy gan warchod a hybu’r iaith Gymraeg yn un o gonglfeini’r gymdeithas dai.
Dangos y ffordd i weddill Cymru
Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Grŵp Cynefin, Carys Edwards o’r Parc, Y Bala: “Gall y cynllun peilot hwn yn Nwyfor ddangos y ffordd i weddill Cymru ac mae’n fraint bod yn rhan ohono. Mae ein tîm o Hwyluswyr Tai Gwledig profiadol yn falch o allu rhannu eu profiad fel arweinwyr ym maes datblygu tai gwledig a byddant yn cydweithio’n agos gyda’r uwch swyddog newydd.”
Gwreiddio’r peilot yn Nwyfor
Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James: “Mae gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri ac, wrth gwrs, Grŵp Cynefin, yn hanfodol i lwyddiant y peilot.
“Rydym yn awyddus i wreiddio’r peilot yn Nwyfor gan gynorthwyo i ddatblygu cyfleoedd go iawn i bobl leol a dod o hyd i atebion ymarferol a fydd yn eu helpu i fyw’n fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.
“Mae’r pwnc ail gartrefi yn gymhleth ac yn un emosiynol, ond rydym yn cymryd mwy o gamau yma nag mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Bydd cael Uwch Swyddog Tai Cymunedol wedi ei sefydlu yn Nwyfor yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â’r gwaith.”
Torri tir newydd
Ychwanegodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, “Bydd y swydd hon yn her ond mae’n bendant yn gyfle i wneud gwahaniaeth a rhoi gwell siawns i bobl leol gyrraedd y farchnad dai yn eu milltir sgwâr dan arweiniad y gymuned. Mae Grŵp Cynefin yn falch o dorri tir newydd, bod yn uchelgeisiol a chael bod yn rhan o gynllun y Llywodraeth gan weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd.”