Cynllun iechyd a llesiant £38 miliwn Dyffryn Nantlle
Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi dogfen weledigaeth yn datgelu manylion cynllun £38 miliwn ym Mhenygroes, Gwynedd.
Grŵp Cynefin sy’n arwain ar y prosiect uchelgeisiol, a enwyd yn ‘Canolfan Lleu’ am y tro, gyda’i bartneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws yn chwarae rhan ganolog yn y cynlluniau.
Mae’r ddogfen yn manylu ar eu gweledigaeth ar gyfer canolfan gymunedol arloesol yng nghanol Penygroes, i wasanaethu’r pentref, holl gymunedau Dyffryn Nantlle a thu hwnt. Nod Canolfan Lleu yw cryfhau cymunedau ar draws y dyffryn, gan gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy amrywiaeth o wasanaethau traddodiadol ac ataliol. Bydd yn cynnig lle i gymdeithasu a chysylltu pobl, un lleoliad i gael mynediad i wasanaethau iechyd, tai, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau’r cyngor, gan gryfhau’r economi leol.
Beth fydd ar y safle?
Bydd y safle ei hun yn cynnig:
- Cartref preswyl 36 gwely
- 17 o fflatiau byw’n annibynnol
- Gwasanaethau meddygol craidd gyda fferyllfa gymunedol a gwasanaeth deintyddol yn rhannu’r adnoddau
- Gwasanaethau iechyd cymunedol traddodiadol ac ataliol
- Mannau amlbwrpas i bobl ifanc, gwasanaethau cymorth a mannau i’r trydydd sector ddarparu darpariaeth allgymorth
- Swyddfeydd newydd Grŵp Cynefin sy’n cynnwys mannau addas ar gyfer gweithio modern a hyblyg
- Cartref newydd i Theatr Bara Caws gan gynnwys swyddfeydd, gofod ymarfer a theatr
- Mannau i hyrwyddo gweithgareddau pontio’r cenedlaethau
Bydd y safle cyfan yn cynnwys mannau gwyrdd a hefyd yn anelu at fod yn garbon sero net, gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy o ffynonellau lleol gydag egwyddorion economi gylchol ar waith.
“Carreg filltir bwysig”
Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae cyhoeddi Dogfen Weledigaeth Canolfan Lleu yn garreg filltir bwysig yn y prosiect cyffrous ac arloesol hwn. Mae’n ganlyniad blynyddoedd o ymgynghori agos â chymunedau Dyffryn Nantlle a’n partneriaid i wir ddeall anghenion a dyheadau’r cymunedau hynny, datblygu achos busnes cryf ac edrych ar sut y gall y cyfan ddod at ei gilydd. Rwy’n hynod falch o’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ac rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf, sef datblygu’r manylion ymhellach a sicrhau’r cyllid angenrheidiol.
“Mae Canolfan Lleu yn addo gwthio ffiniau a thorri tir newydd o ran cydweithio, gan ysbrydoli cymunedau eraill yng Nghymru i wireddu prosiectau eraill o’r fath.”
“Dod â gwasanaethau a gofal yn agosach at gartrefi pobl”
Meddai Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae dod â gwasanaethau a gofal yn agosach at gartrefi pobl yn rhan ganolog o weledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn y dyfodol.
“Bydd y datblygiad ym Mhenygroes yn ganolbwynt ar gyfer gofal cychwynnol a gwasanaethau iechyd yn y gymuned yn yr ardal, yn ogystal â gwasanaethau gan ein partneriaid, i gyd o dan yr un to.”
“Y peth mwyaf cyffrous i ddigwydd yn yr ardal ers blynyddoedd”
Meddai Craig ap Iago, Cabinet Cyngor Gwynedd: “Dwi wir yn credu mai dyma’r peth mwyaf cyffrous i ddigwydd yn yr ardal ers blynyddoedd. O’i gael yn iawn, bydd yn mynd yn bell tuag at greu Bro Lleu sydd gynaliadwy yn gymdeithasol, economaidd ac yn amgylcheddol.”
“Rôl bwysig y celfyddydau yn hyrwyddo a chynnal lles ac iechyd”
Meddai Berwyn Morris-Jones o Theatr Bara Caws: “Yn gynyddol rydym yn gweld rôl bwysig y celfyddydau o ran hyrwyddo a chynnal lles ac iechyd. Mae swyddfeydd newydd i’r cwmni yn ogystal â theatr newydd i’r cyhoedd yn ffitio’n naturiol i’r weledigaeth ac mae’r manteision i ni fel cwmni a’n cwsmeriaid yn fawr.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r weledigaeth ac wedi cyfrannu cymorth ariannol drwy grant ICF i ddatblygu’r camau cynllunio.
Ddechrau Mawrth, cyfarfu Liz Saville Roberts AS, yr Aelod Senedd, Sian Gwenllian ac aelodau Grŵp Cynefin a phartneriaid y prosiect ar y safle, lle croesawyd y prosiect arfaethedig.
Mae’r ddogfen ar gael yn lleol o Siop Griffiths, Penygroes, ar wefan Grŵp Cynefin neu canolfanlleu@grwpcynefin.org.