
Mae gan Y Shed hanes cyfoethog ac amrywiol ac ers degawdau, roedd yn ddiffaith. Nawr, wedi’i hyrwyddo gan Grŵp Cynefin a ‘Meliden Residents’ Action Group’ mae ei ddyfodol yn wahanol iawn.
Mae’r adeilad anghofiedig hwn wedi’i drawsnewid yn ganolbwynt cymunedol a thwristiaeth bywiog gyda chaffi, siop, arddangosfeydd hanes, man lle gall cerddwyr stopio am luniaeth, neu gall teuluoedd a ffrindiau gwrdd i gael cinio. Mae’r arddangosfa hanes yn arddangos y pentref a’i straeon i genedlaethau newydd, gan daflu goleuni ar fywyd trigolion Gallt Melyd trwy’r blynyddoedd. Mae Y Shed hefyd yn helpu darpar entrepreneuriaid ac artistiaid i ddatblygu eu busnesau o fannau unigryw â ffrynt gwydr yn edrych allan dros leoliad arfordirol ysbrydoledig.
Cipolwg ar Y SHED
- Bwyd a diod gwych
- Croeso i gerddwyr
- Cyfeillgar i gŵn
- Raciau beic
- Busnesau annibynnol
- Man adwerthu ar gyfer celf a chrefft leol
Mae Y Shed ar agor Dydd Mawrth-Sul 9.30am-4.30pm
Gwefan: Y Shed