
Pwy ydym ni?
Rydym yn helpu pobl hŷn i drwsio, addasu a cynnal a chadw eu cartrefi.
Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref i drafod unrhyw addasiadau rydych angen a’r datrysiadau posib, yr amcan gost unrhyw waith ac edrych ar ffynonellau posib i’w ariannu.
Sut fedrwn ni helpu?
Trwy roi cyngor i bobl hŷn ynglŷn â:
- Bod yn ddiogel yn eich cartref eich hun gyda Gwiriad Cartrefi Iach;
- Dewisiadau tai / atebion er mwyn eich galluogi i aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun;
- Materion technegol megis gwaith atgyweirio / gwella neu addasu;
- Uchafu eich incwm: Gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-dal er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol;
- Argymell contractwyr oddi ar ein rhestr gymeradwy;
- Cymorth ymarferol i drefnu a gwaith monitro er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i safon foddhaol;
- Cymorth with wneud ceisiadau am grantiau a budd-daliadau;
- Gwneud cais am grantiau i wneud eich cartref yn gynhesach;
- Gwiriad Diogelwch Tân a gynhelir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ;
- Cynllun ‘Gerddi Gwyrdd Gwasanaeth Gwella Cartrefi’- Gwasanaeth Crefftwr a Garddio (codi’r tâl am y gwasanaeth yma).
Dim Rhwymedigaeth
Mae Gofal a Thrwsio yma i’ch helpu chi drwy bob rhan o’r broses, gan gynnig cefnogaeth cyngor a chymorth. Ni fyddwch ar unrhyw adeg o dan unrhyw rwymedigaeth i fwrw ymlaen gydag unrhyw waith. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gennych chi.
Statws Elusennol
Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn elusen ac wedi cael ei gofnodi ar y Gofrestr Elusennau gyda’r Rhif Elusen Gofrestredig 1171303.
Mae amcanion yr elusen er budd y cyhoedd, lleddfu angen, salwch, anabledd ac iechyd gwael, yn enwedig, ond nid yn unig, ymhlith y rhai dros chwe deg oed ac sy’n byw yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych drwy:
- gynnal a gwella tai a feddiennir gan bersonau o’r fath;
- ddarparu cymorth i helpu i gartrefu pobl o’r fath a chyfleusterau ac amwynderau cysylltiedig, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu o reidrwydd, i ddyluniadau ac addasiadau arbennig, darparu eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a fyddai’n lleddfu anghenion pobl o’r fath;
- gyflawni dibenion elusennol eraill fel y gwelir yn briodol o bryd i’w gilydd
Manylion Cyswllt
Gwefan: Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych
Ffôn: 0300 111 2120
E-bost: post@gofalathrwsio.com
Dogfennau
- Conwy and Denbighshire Care and Repair: Ffeithiau a ffigurau 2019/20
- Conwy and Denbighshire Care and Repair: Ffeithiau a ffigurau 2018/19
- Conwy and Denbighshire Care and Repair: Ffeithiau a ffigurau 2017/18
- Yr hyn a wnawn: Taflen wybodaeth bellach