Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r lefel uchaf posibl i chi. Rydym wedi cynhyrchu’r llawlyfr hwn i’ch helpu, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol amdanom ni, y gwasanaethau a ddarperir gennym a’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau.
Fel eich landlord, rydym yn gyfrifol am reoli eich eiddo ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i wneud yn siwr bod ein gwasanaethau o safon uchel ac yn werth da am arian.
Rydym wedi ceisio cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl yn eich llawlyfr, ond os nad ydych yn dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cofiwch gysylltu â ni. Gallwch lawrlwytho’r llawlyfr yma neu o’r ddolen ar waelod y dudalen, o dan Dogfennau.
Gobeithiwn y byddwch yn hapus iawn yn eich cartref.
Yswiriant Cynnwys Cartref
Pam fod ei angen arnaf?
Os ydych chi’n denant sy’n rhentu, yna mae’n bosib nad yw eich landlord yn darparu sicrwydd yswiriant am gynnwys eich cartref fel rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Mae’n syniad da ystyried beth fyddai yswiriant cynnwys cartref yn gallu darparu sicrwydd amdano er mwyn i chi wneud penderfyniad wedi ei seilio ar wybodaeth ynglŷn â ydych chi ei angen neu beidio.
Mae yswiriant cynnwys wedi ei gynllunio er mwyn helpu i warchod y pethau yr ydych chi’n eu meddu. Does dim gwahaniaeth pa mor ofalus ydych chi, mae ‘na bob amser risg y gallai eich pethau chi gael eu torri, eu difrodi, neu eu dwyn, felly gall yswiriant cynnwys cartref helpu i roi tawelwch meddwl i chi.
I’ch helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn addas i chi, mae Grŵp Cynefin wedi bod yn cyd-weithio â Thistle Tenant Risks, ac Allianz Insurance plc, sy’n darparu’r cynllun yswiriant ‘My Home Contents Insurance’, polisi yswiriant cynnwys cartref arbenigol i denantiaid.
Gall y cynllun ‘The My Home Contents Insurance’ gynnig yswiriant am gynnwys eich cartref, gan gynnwys sicrwydd am eitemau megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac addurniadau.
Sut gallai gael mwy o wybodaeth?
• Gofynnwch i’ch swyddog tai am becyn gwybodaeth.
• Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288
Neu gallwch ymweld â gwefan www.thistlemyhome-cymru.co.uk am fwy o wybodaeth, neu i wneud cais am iddynt eich ffonio chi yn ôl.
Mae’r National Housing Federation a Community Housing Cymru yn Gynrychiolwyr Apwyntiedig i Thistle Insurance Services Ltd. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi ei awdurdodi, a chaiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Lloyd’s Broker. Wedi ei gofrestru yn Lloegr dan rif: 00338645. Swyddfa Gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o’r Grŵp PIB.
Dogfennau
- Clawr Ffolder: Clawr Ffolder
- Adran 1: Gwybodaeth Gyffredinol (CYM)
- Adran 2: Gofal Cwsmer (CYM)
- Adran 3: Symud i Mewn (CYM)
- Adran 4: Eglurhad am Fy Nhenantiaeth (CYM)
- Adran 5: Rhent, tâl gwasanaeth a rheoli fy arian (CYM)
- Adran 6: Byw yn fy nghartref (CYM)
- Adran 7: Gwaith Trwsio a Chynnal a Chadw fy nghartref (CYM)
- Adran 8: Cadw yn gynnes a diogel (CYM)
- Adran 9: Rheoli ac Atal Argyfwng (CYM)
- Adran 10: Gwasanaethau Cefnogaeth Ychwanegol (CYM)
- Adran 11: Cyfranogiad Tenantiaid, Ymgynghori a Mentrau Cymunedol (CYM)
- Adran 12: Symud i Fyw (CYM)
- Adran 13: Cysylltiadau defnyddiol (CYM)
- ----------: ----------
- Folder Cover: Folder Cover
- Section 1: General Info (ENG)
- Section 2: Customer Care (ENG)
- Section 3: Moving in (ENG)
- Section 4: My Tenancy Explained (ENG)
- Section 5: Rent, Service Charges and managing my finances (ENG)
- Section 6: Living in my home (ENG)
- Section 7: Repairs and Maintenance to My Home (ENG)
- Section 8: Staying, Safe and Warm (ENG)
- Section 9: Managing and Preventing an Emergency (ENG)
- Section 10: Additional Support Services (ENG)
- Section 11: Tenant Participation, Consultation and Community Initiatives (ENG)
- Section 12: Moving Home (ENG)
- Section 13: Useful Contacts (ENG)