
Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, bydd Grŵp Cynefin nawr yn darparu gwasanaeth Cynnal a Chadw fel a ganlyn:
* Trwsio argyfwng yn unig gyda gwaith arall yn amodol i asesiad risg / awdurdod swyddogion
* Rhaglen archwilio a gwasanaethu cyflawn a gwaith cywiro fel sydd angen
* Holl waith ail-osod ac i eiddo gwag
* Gwaith adnewyddu i gragen eiddo ac ardaloedd tu allan
* DIM gwaith adnewyddu mewnol
* DIM gwaith amnewid drysau a ffenestri.
Byddwn yn adolygu’r sefyllfa a’n safbwynt yn ystod yr wythnos sy’n dechrau y 4ydd o Ionawr, ac yn diweddaru ymhellach.
Yn unol â chyngor y Llywodraeth plîs ystyriwch ohirio ceisiadau am waith nes y bydd y cyfyngiadau Lefel 4 wedi’u llacio, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Diolch.
Gweler y rheolau:
https://llyw.cymru/ymweld-phobl-mewn-cartrefi-preifat-lefel-rhybudd-4
https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin
Gallwch gysylltu trwy:
- Gwblhau’r ffurflen ymholi
- Ffonio’r Tîm Gwasanaeth Cwsmer,
- Cyswllt Cynefin ar 0300 111 2122
- Ysgrifennu at y Tîm yn eich swyddfa leol
Penygroes - Ty Silyn, Penygroes, Caernarfon LL54 6LY
Dinbych – 54 Stryd y Dyffryn, Dinbych, LL16 3BW
Bala – Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
Llangefni – 33-35 Stryd Fawr, Llangefni, LL77 7NA
- Galw heibio’r swyddfa agosaf,nodwch mae ymweliadau â‘r swyddfeydd Y Bala a Llangefni drwy apwyntiadau yn unig
- E-bostio post@grwpcynefin.org
- Dychwelyd eich ffurflen foddhad
Gwasanaeth Argyfwng
Mae’r Gymdeithas yn cynnal gwasanaeth trwsio argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol h.y. rhwng 5pm a 8.30am ac hefyd ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Gallwch gysylltu â‘r gwasanaeth ar-alwad trwy ffonio 0300 111 2122.
Yswiriant
Cyfrifoldeb y tenant yw sicrhau fod ganddynt yswiriant cynnwys (contents insurance) eu hunain. Yswirio’r ‘adeilad’ (buildings insurance) yn unig fydd Grŵp Cynefin.