
Cynigir nifer o ddulliau talu’r rhent ……………….
- Ar-lein: Defnyddiwch eich cerdyn banc i dalu drwy’r rhyngrwyd. Allpay sy’n gweithredu’r gwasanaeth hwn ar ein rhan. Y cyfan sydd angen ei wneud ydi llenwi’r ffurflen talu ar-lein. Bydd yr arian yn mynd i’ch cyfrif rhent o fewn dau ddiwrnod gwaith.
- Rhaglen dalu ‘Payment App’ i ddefnyddwyr iPhone, iPad a dyfeisiau Android: Gellir lawrlwytho’r rhaglen ‘Payment App’ gan Allpay am ddim a’i defnyddio ar ffonau symudol Apple, Android a Windows. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i wneud taliad heb fod angen storio cyfeirif taliad na manylion eich cerdyn banc.
- Drwy ddebyd uniongyrchol: Mae’n debyg mai dyma’r ffordd orau o dalu. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol i’ch cyfrif rhent ar y dyddiad talu a ddewisir gennych chi, ac unwaith y bo hyn wedi ei drefnu nid oes unrhyw berygl y gwnewch chi anghofio talu. Ffoniwch ni ar 0300 111 2122 i sefydlu taliadau rheolaidd.
- Taliadau cerdyn debyd: Dyma ffordd hawdd ac awtomatig o dalu gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd. Gallwch drefnu i dalu faint rydych chi ei eisiau ac mor aml ag y dymunwch. Does dim cost ariannol am daliadau aflwyddiannus. Ffoniwch ni nawr i sefydlu Taliad Cerdyn Debyd ar 0300 111 2122.
- Dros y ffôn: Os hoffech dalu gan ddefnyddio eich cerdyn debyd ffoniwch ni yn uniongyrchol ar 0300 111 2122 i siarad ag un o’r staff, neu ffoniwch 0330 041 6497 i gael gwasanaeth peiriant ateb. Gwnewch yn siwr bod eich cerdyn debyd wrth law pan fyddwch yn ein ffonio gan y bydd angen i ni gadarnhau’r manylion ar y cerdyn.
- Defnyddio eich cerdyn rhent yn y swyddfa bost: Defnyddiwch eich cerdyn rhent i dalu yn unrhyw swyddfa bost. Cewch ddefnyddio arian parod, siec neu gerdyn debyd i dalu. Mae hwn yn wasanaeth am ddim. Chwiliwch am eich swyddfa bost agosaf. Cysylltwch â ni os oes angen cerdyn rhent arnoch chi.
- Defnyddio eich cerdyn rhent mewn lleoliad ‘Paypoint’: Edrychwch am yr arwydd Paypoint piws a melyn yn eich siop leol, siop papurau newydd neu orsaf betrol leol. Defnyddiwch eich cerdyn rhent i dalu ag arian parod neu gerdyn debyd. Mae’n wasanaeth cyfleus, cyfrinachol ac am ddim – ni all staff y lleoliad weld manylion eich cyfrif rhent. Chwiliwch am eich lleoliad Paypoint agosaf. Cysylltwch â ni os oes angen cerdyn rhent arnoch chi.
- Drwy’r post: Peidich ag anfon arian parod drwy’r post, os gwelwch yn dda. Anfonwch siec (yn daladwy i Grŵp Cynefin) i’ch swyddfa leol – cyfeiriadau ac amseroedd agor. Hefyd cofiwch nodi eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich cyfrif rhent ar du ôl y siec os gwelwch yn dda.
Cyfrifiannell Budd-daliadau a Chyllidebu
Dyma linc i’n Cyfrifiannell Budd-daliadau a Chyllidebu sydd yn syml i’w ddefnyddio. Trwy ychydig o gamau syml, gallwch weld faint o fudd-dal rydych chi’n gymwys i’w gael a faint yn well i ffwrdd y gallech chi fod yn gweithio. Gallwch hefyd weld sut y gall newidiadau yn eich cyllideb cartref effeithio ar eich incwm. Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell am ddim yma
Dolenni defnyddiol
Cyngor ar Bopeth - https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
National Debtline - https://www.nationaldebtline.org
Gwasanaeth Cynghori Ariannol - https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy
StepChange Debt Charity - https://www.stepchange.org
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn…..
Paratowch ar gyfer credyd cynhwysol drwy lawrlwytho ein llyfryn gwybodaeth: Mae eich budd-daliadau yn newid