
Mae ‘cogio’ (cuckooing) yn digwydd yng Ngogledd Cymru
Defnyddir y term Llinellau Cyffuriau (County Lines) i ddisgrifio gangiau, grwpiau neu rwydweithiau cyffuriau sy’n cyflenwi cyffuriau o ardaloedd trefol megis Manceinion neu Lerpwl i ardaloedd maestrefol ar draws y wlad, yn cynnwys trefi marchnad ac arfordirol Gogledd Cymru, drwy ddefnyddio llinellau ffôn symudol penodol neu “deal lines”. Maent yn manteisio ar blant ac oedolion bregus i symud y cyffuriau i ac o’r ardal drefol, ac i storio’r cyffuriau mewn marchnadoedd lleol. Yn aml iawn byddant yn defnyddio bygythiadau, trais ac arfau, yn cynnwys cyllyll, deunydd cyrydol (corrosives) a drylliau.
Yn aml iawn bydd amgylchiadau/ cefndiroedd y bobl ifanc/ oedolion bregus sy’n cael eu hecsbloetio i ddosbarthu cyffuriau yn debyg, ac yn gallu cynnwys:
- Bod yn gaeth i gyffuriau/ dyledion cyffuriau/ arbrofi gyda chyffuriau
- Bod yn gaeth i alcohol neu yfed dan oed
- Dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu
- Mewn perthynas neu gyfeillgarwch gydag aelod gang
- Yn dod o gefndiroedd difreintiedig neu deuluoedd sydd wedi gwahanu
- Pobl ifanc sy’n aml yn mynd ar goll o’r cartref
- Pobl ifanc sy’n colli ysgol yn aml
- Plant sydd dan ofal/ dan ofal gwasanaethau cymdeithasol
Pwy sy’n dioddef?
Gall y dioddefwyr fod yn unrhyw un yn ein cymuned – gallent fod mor ifanc â 10 neu mor hen â 90 – mae gangiau troseddwyr yn gallu manteisio ar wendid ym mhob ffurf.
- Gall pobl ifanc ddod yn gaeth i’r gangiau drwy arbrofi gyda chyffuriau neu ymwneud â chriwiau o bobl sy’n dylanwadu’n ddrwg arnynt, a hefyd drwy fynd i ddyled cyffuriau.
- Unwaith y maent mewn dyled i ddeliwr, cant eu hannog i werthu cyffuriau er mwyn talu eu dyled.
- Bydd y gang yn sicrhau na fydd y ddyled fyth yn cael ei thalu’n llawn, ac yn fuan iawn gall y dioddefwr ddod yn gaeth mewn cylchred sy’n golygu mai parhau i droseddu yw eu hunig ddewis.
- Po fwyaf y maent yn troseddu, y lleiaf tebygol ydynt o beidio â dweud wrth unrhyw un am yr hyn sy’n digwydd, neu o geisio cymorth.
- Byddant yn cael eu hanfon i deithio i rannau eraill o’r wlad lle nad ydynt yn adnabyddus i’r heddlu na gwasanaethau cymdeithasol, a lle gallent weithredu heb gael sylw
- Yn ystod yr amser yma y maent yn ei dreulio oddi cartref, maent mewn perygl dwys o gael niwed gan y bobl y maent yn gwerthu’r cyffuriau iddynt neu i ddelwyr cyffuriau lleol eraill sy’n cystadlu yn y farchnad.
- Gall pobl hŷn hefyd gael eu camfanteisio i ddelio mewn cyffuriau, arfau ac arian, ond hefyd gall eu cartrefi gael eu meddiannu gan gangiau sy’n chwilio am rywle i guddio eu cyffuriau neu rywle i ddelio cyffuriau ohono
- Gall oedolion sydd ag anableddau corfforol neu feddyliol, neu oedolion sy’n gaeth i rywbeth neu sy’n hŷn ddioddef o drosedd ‘cogio’ lle mae gang yn meddiannu eu cartref.
- Mae’r troseddau hyn yn gallu creu dioddefwyr eraill sy’n cynnwys perthnasau’r person sy’n cael eu camfanteisio, sy’n “colli” rhywun y maent yn agos atynt i gang o droseddwyr. Mae’r cymunedau ble lle caiff y cyffuriau, a’r trais sy’n mynd law yn llaw â hwy, ei ‘allforio’ iddynt yn dioddef hefyd.
Beth yw’r arwyddion?
Mewn plant, gallai arwyddion eu bod yn dioddef camfanteisio troseddol gynnwys:
- mynd ar goll oddi cartref neu fod yn absennol o’r ysgol heb eglurhad;
- ymwneud â ffrindiau newydd nad yw’r rhieni yn eu hadnabod;
- arbrofi gyda chyffuriau, canabis gan amlaf;
- bod â mwy nag un ffôn symudol;
- ymddangos yn nerfus/ofnus/cyfrwys/cyfrinachol;
- dioddef anafiadau na allant eu hegluro; meddu ar docynnau trên neu fws.
Mewn oedolion, mae arwyddion eu bod yn dioddef ‘cogio’ yn cynnwys:
- perthynas neu gymydog ddim yn cael eu gweld am beth amser;
- ymwelwyr a cheir dieithr yn eu cartref ar adegau anarferol;
- cyfnewid arian neu becynnau yn digwydd y tu allan i’w cartref;
- defnydd amlwg o gyffuriau yn y stryd; difrod a dirywiad yn ymddangosiad eu cartref;
- newid yn eu personoliaeth neu ymddygiad, e.e. roeddent yn arfer dweud ‘helo’, ond nawr maent yn ymddangos yn nerfus/ yn bryderus/ wedi eu brawychu.
Os ydych chi’n amau fod trosedd o’r math hwn yn digwydd yng nghartref rywun yr ydych yn eu hadnabod dylech godi’r ffôn a galw Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu 999 os oes trosedd wrthi’n digwydd, neu gallwch ffonio’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Ceir mwy o wybodaeth am ymgyrch Llinellau Cyffuriau Crimpestoppers drwy’r clicio yma