
Newidiadau i’n Gwasanaethau
Atgyweiriadau: Darllenwch fwy yma.
Addasiadau: Rydym yn parhau i wneud addasiadau brys sy’n caniatáu i bobl aros yn ddiogel yn eu cartrefi ac atal derbyniadau i’r ysbyty lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
Gwasanaethu Statudol: Rydym yn parhau i wneud gwaith gwasanaethu statudol gan gynnwys profi larymau tân a glanhau mewn adeiladau ag ardaloedd cymunedol, a gwaith gwasanaethu nwy blynyddol lle mae gofyniad statudol i wneud hynny.
Ein Swyddfeydd: Mae ein swyddfeydd yn parhau ar gau nes bydd rhybudd pellach, gyda mwyafrif y staff bellach yn gweithio o adref ac ar gael dros y ffôn neu e-bost. Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth yn y gymuned gyda staff wedi’u lleoli yn ein cynlluniau Gofal Ychwanegol a Thai â Chefnogaeth.
Cysylltu â Ni: Gallwch barhau i gysylltu â ni ar 0300 111 2122. Gallwch hefyd gysylltu â ni trwy e-bost ar post@grwpcynefin.org, gan anfon neges uniongyrchol atom ar ein tudalennau Facebook neu Twitter, neu trwy ddefnyddio’r cyfleuster Sgwrs Fyw ar y wefan.
Cefnogi eich tenantiaeth
Byddwn yn eich cadw’n saff a diogel yn eich cartref. Ni fydd unrhyw un yn cael ei droi allan o gartref Grŵp Cynefin o ganlyniad i galedi ariannol a achoswyd gan COVID 19.
Byddwn yn eich helpu i gael y gefnogaeth ariannol sydd ei hangen arnoch. Mae ein Tîm Lles yma i’ch helpu chi i gael mynediad at gynlluniau lles i leddfu caledi ariannol.
Rydym ni yma i’ch cefnogi chi ac i ddod o hyd i atebion os ydych chi’n cael anhawster talu’ch rhent. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut orau y gallwn eich helpu i reoli eich tenantiaeth.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eich lles. Cysylltwch â ni os ydych angen unrhyw gymorth ychwanegol a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch cynorthwyo, naill ai ein hunain, neu drwy rwydwaith o asiantaethau partner.
Cadw’n Ddiogel yn y Cartref
- Rydym yn annog pawb i aros adref lle y gallant i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
- Os ydych chi’n denant ac yn unigolyn sy’n cael eu gwarchod ar hyn o bryd oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol, gofynnwn i chi roi gwybod i ni fel y gallwn gynnig cefnogaeth wedi’i theilwra a’ch rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau partner a all gynnig cefnogaeth gyda gweithgareddau fel siopa.
- I ddioddefwyr cam-drin domestig, gallai hunan-ynysu gynyddu tensiynau yn y cartref yn ogystal â chael gwared ar gyfleoedd ar gyfer seibiant, fel gwaith neu ddanfon y plant i’r ysgol. Am gefnogaeth, ffoniwch linell gymorth 24 awr Live Fear Free Wales ar 0808 80 10800. Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ond yn rhy ofnus i siarad, gallwch ffonio 999 ac yna pwyso 55 pan ofynnir ichi wneud hynny, bydd hyn yn rhoi gwybod i’r Heddlu ei fod yn argyfwng gwirioneddol.
- Rydym yn gwybod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith enfawr ar fywydau ein cwsmeriaid a byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw un sydd â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y pandemig Coronafirws. Darllenwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael yma.
Cylchlythyr Tenantiaid
Dyma rifyn arbennig o Calon, ‘Yma i Chi’, sy’n canolbwyntio ar sut rydym yn ceisio eich cefnogi yn ystod Pandemig Corona¬rws. Mae’r rhifyn hwn yn llawn awgrymiadau ymarferol ar sut i gadw’n ddiogel ac yn brysur yn ystod yr amser anodd hwn. Darllenwch Calon yma.
Erthyglau Cysylltiedig â Coronafirws
26.10.2020 Datganiad gan ein Prif Weithredwr ar y cyfnod cloi byr
1.10.2020 Datganiad gan ein Prif Weithredwr ar y cyhoeddiad cloi lleol
06.04.2020 Dioddefwyr camdriniaeth ddomestig cefnogaeth ar gael yn ystod COVID-19
27.03.2020 Neges gan ein Prif Weithredwr, Shan Lloyd Williams
24.03.2020 Newidiadau i’n Gwasanaeth Trwsio
18.03.2020 Llythyr Tenantiaid
18.03.2020 Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ar gyfer Tenantiaid
18.03.2020 Swyddfeydd Grŵp Cynefin Yn Cau
17.03.2020 Diweddariad Coronafirws
13.03.2020 Diweddariad Coronafirws
Dolenni Defnyddiol
Llywodraeth Cymru: Coronafeirws (COVID-19): cefnogaeth i denantiaid yng Nghymru
Dogfennau
- Cwestiynau a ofynnir yn aml - Cymraeg: Cwestiynau a ofynnir yn aml i'n tenantiaid
- Cwestiynau a ofynnir yn aml - Saesneg: Cwestiynau a ofynnir yn aml for tenants
- Llythyr Coronafirws Cymraeg 18.03.2020 : Llythyr Coronafirws i denantiaid
- Llythyr Coronafirws Saesneg 18.03.2020 : Llythyr Coronafirws i denantiaid
- COVIS-19 hawdd ei darllen: Dogfen Gymraeg:
- COVIS-19 hawdd ei darllen: Dogfen Saesneg:
- Newidiadau i'n Gwasanaeth Trwsio : Dogfen Newidiadau i'n Gwasanaeth Trwsio
- Llythyr i holl denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru (Cymraeg):
- Llythyr i holl denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru (Saesneg):
- Cefnogaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol: Cymraeg
- Cefnogaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol: Saesneg