Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.
Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio’r gofrestr tai cyngor perthnasol yn eu hardal.
Eiddo’r mis
Yr Hen Ysgol, Llanddeusant (6 x eiddo 3 llofft Cynllun Rhent Canolraddol)

- Bydd rhaid cael cysylltiad lleol o fyw neu weithio ar Ynys Môn am o leiaf 5 mlynedd.
- 6 eiddo tair llofft gyda rhent misol o £563.33 a Tal gwasanaeth i’w gadarnhau.
- Ystafell fyw, cegin, ystafell gawod, 3 llofft, ystafell ymolchi.
- Safle parcio a gardd.
- Codi’r ffi asesu o £75 ynghyd a ffi gwiried credyd o £30 y person.
Am fwy o wybodaeth am yr eiddo yma, cliciwch yma. Am fwy o wybodaeth am Tai Teg neu/ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan www.taiteg.org.uk.
Cliciwch ar y fideo isod i glywed gan gyn gleientiaid