Aelodau’r Bwrdd Rheoli
Carys Edwards (Cadeirydd)
Cyn Bennaeth Gwasanaethau Oedolion gyda Chyngor Sir Ynys Môn, mae Carys yn byw yn Y Parc, ger y Bala. Cadeirydd Pwyllgor Gorwel, ynghyd â’r Pwyllgor Rheolaeth Llywodraethu.
Elen Llwyd Williams (Is-Gadeirydd)
Cyfarwyddwr Gweithredol gyda chwmni datblygu economaidd Menter a Busnes. Mae’n byw ym Mhorthmadog, Gwynedd.
Mike Corfield (Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg)
Ymgynghorydd annibynnol gyda chwmni sy’n cynnig cefnogaeth i gwmnïau ddatblygu mewn amrywiol feysydd, e.e. rheoli newid,datblygu arweinyddiaeth, twf ac arallgyfeirio. Wedi gweithio mewn ystod o Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Yn Gadeirydd Cymdeithas Dai Arcon, is-Gadeirydd Culture Warrington, ac yn aelod o Fwrdd Bolton at Home. Mae’n byw yn Warrington.
Dafydd Lewis (Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Thwf)
Cyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol â chyfrifoldeb am dai a gofal cymdeithasol yng Nghyngor Gwynedd, mae’n byw yn Nolgellau. Cyn-Gadeirydd Grŵp Cynefin.
Clifton Robinson (Cadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chymunedau)
Mae Clifton wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd Prawf Gogledd Cymru, cyfarwyddwr cymdeithas dai, aelod Bwrdd am 9 mlynedd yn Cartrefi Conwy, a cyn iddo ymddeol yn 2016, yn Brif Weithredwr ‘Housing Diversity Network’ – menter gymdeithasol yn hyfforddi a mentora yn y maes cydraddoldeb gydag aelodaeth o dros 100 o gymdeithasau tai ledled Lloegr. Mae Clifton yn cynrychioli Grŵp Cynefin ar Fwrdd Rheoli Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.
Julia Hughes
Cyn gyfarwyddwr dysgu cymunedol ac oedolion yng Ngholeg Llandrillo, mae Julia yn byw yn Llangwyfan ger Dinbych.
Chris Schoen
Cyn ymddeol, roedd Chris yn gweithio mewn swydd weinyddol yn Ysbyty Gwynedd. Un o denantiaid Grŵp Cynefin o Benygroes.
John Arthur Jones
Gŵr o Lanrwst ac wedi ymddeol fel swyddog banc.
Llinos Iorwerth
Perchennog cwmni ATEB Cymru a chyn-Bennaeth Cyfathrebu i Gartrefi Cymunedol Gwynedd. Mae Llinos yn byw yn Llangristiolus, Ynys Mon.
Geraint George
Profiad helaeth o ran trawsnewid gwasanaethau, a dod o hyd i arbedion a gweithredu hynny. Yn cynrychioli Grŵp Cynefin ar Fwrdd Rheoli Canllaw. Mae’n byw yn Bontnewydd.
Jane Lewis
Profiad helaeth yn y maes Cyllid a Rheolaeth Trysorlys o fewn y sector iechyd, ac wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd. Aelod Cymrawd o’r Chartered Institute of Management Accountants. Mae Jane yn byw yng Nghaer.
Tony Jones
Rheolwr Gwasanaethau Asedau gyda Grŵp Tai Muir, gyda phrofiad helaeth yn y diwydiant adeiladu a’r maes tai cymdeithasol mewn Awdurdod Lleol yn y gogledd a Chymdeithas Dai. Aelod o nifer o gyrff proffesiynol megis yr Institute for Fire Safety Management. Mae’n byw yn Wrecsam.