Cynllun Iaith Gymraeg
Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.
Polisi Cwynion
Rydym yn ymrwymedig i roi’r cwsmer yn gyntaf gan wella ansawdd ein gwasanaethau a phrofiadau ein cwsmeriaid.
Rydym yn croesawu derbyn barn ein cwsmeriaid. Mae cwynion yn bwysig i ni er mwyn amlygu’r hyn rydym yn ei wneud yn dda a lle rydym angen canolbwyntio ar wneud gwelliannau i wasanaethau’r dyfodol.
Polisi Diogelu Data
Er mwyn i ni wneud ein gwaith fel cymdeithas dai rydyn ni’n casglu ac yn storio gwybodaeth bersonol am ein tenantiaid, pobl eraill sy’n byw yn ein tai ac ymgeiswyr am dai. Mae’r wybodaeth hon (o’r ffurflenni tenantiaeth, cyfweliadau â swyddogion ac ati) yn cael ei alw’n ‘ddata personol’. Mae’r gyfraith yn rhoi’r hawl i chi wybod pa wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi, ac mae’n ofynnol i ni ei defnyddio yn deg a phriodol mewn ffyrdd rydych chi’n eu deall. Hefyd cewch ofyn i ni gywiro’r wybodaeth os yw’n anghywir.
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth i bawb o fewn ei chyflogaeth a’i holl wasanaethau ar draws y Grŵp yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddwn yn ceisio sicrhau na fydd pobl yn destun i wahaniaethu neu aflonyddwch ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaethau sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, ethnigrwydd a chenedligrwydd), crefydd a chredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol yn ei darpariaeth cyflogaeth a gwasanaethau.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ddogfen gyhoeddus sydd ar gael i unrhyw un ac mae’n berthnasol i gwsmeriaid Grŵp Cynefin i esbonio sut mae’r sefydliad yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal gweithgareddau busnes arferol fel cymdeithas dai elusennol yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. (Hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen)
Dogfennau
- Cynllun Iaith Gymraeg : Dogfen Gymraeg
- Cynllun Iaith Gymraeg : Dogfen Saesneg
- Polisi Cwynion : Dogfen Gymraeg
- Polisi Cwynion: Dogfen Saesneg
- Diogelu Data: Dogfen Gymraeg
- Diogelu Data: Dogfen Saesneg
- Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Dogfen Gymraeg
- Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Dogfen Saesneg
- Hysbysiad Preifatrwydd: Dogfen Gymraeg
- Hysbysiad Preifatrwydd: Dogfen Saesneg
- Hysbysiad Preifatrwydd hawdd ei darllen: Dogfen Gymraeg
- Hysbysiad Preifatrwydd hawdd ei darllen: Dogfen Saesneg