Adroddiad Blynyddol
Mae’n adroddiadau blynyddol yn dangos y cynnydd a wnaethom dros y flwyddyn tuag at gyflawni ein nodau ac amcanion strategol.
Cynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24
Mae’r cynllun corfforaethol yn egluro’r math o sefydliad rydym eisiau bod, ac wedi gosod blaenoriaethau i’w gweithredu dros gyfnod o 5 mlynedd. Gallwch lawrlwytho Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 yma
Gelwir y blaenoriaethau yma’n ‘nodau strategol’, ac mae nodau strategol Grŵp Cynefin yn cynnwys:
1. Cartrefi o Safon: Byddwn yn darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel sydd yn diwallu anghenion lleol
2. Gwasanaethau Rhagorol: Byddwn yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn gyson ar draws y grŵp
3. Gwella Bywydau: Byddwn yn darparu cymorth a chyfleoedd i bobl
4. Cynnal Cymunedau: Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol a byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol
5. Twf Cadarn a Chynaliadwy: Byddwn yn arddangos yr arferion arweinyddiaeth, llywodraethu a rheolaeth gorau fel grŵp
Darllenwch Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 isod
Dangosyddion Perfformiad
Byddwn yn cyhoeddi ein perfformiad yn flynyddol a chwarterol yn erbyn ein prif ddangosyddion perfformiad, a gallwch lawrlwytho copiau o’r canlyniadau diweddaraf yma.
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau Chwarter 1 2018/19
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2018/19
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2017/18
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2016/17
Dyfarniad Rheoleiddio
Mae Grŵp Cynefin yn Landlord Cymdeithasol Cofresterdig, a mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein Rheoleiddio gan Tîm Rheoleiddio Tai, Llywodraethu Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud a gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol.
Yn flynyddol, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, bydd Grŵp Cynefin yn cynnal hunan-asesiad o’n gweithgareddau er mwyn dangos sut rydym yn cwrdd a’r canllawiau perthnasol. Bydd yr hunan-asesiad yma wedyn yn cael ei rannu gyda Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sydd yn herio’r cynnwys ag yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Canlyniad hyn yw adroddiad sy’n cael ei chyhoeddi gan Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd adroddiad Dyfarniad Rheoleiddio canlynol ar gyfer Grŵp Cynefin, ar Hydref 31ain, 2019:
Statws Cydreoleiddio – Hydref 2019
Llywodraethu a Gwasanaethau - Safonol
- Yn nodi ac yn rheoli risgiau newydd a risgiau sy’n datblygu yn briodol.
Hyfywedd Ariannol - Safonol
- Yn bodloni gofynion o ran hyfywedd ac yn meddu ar yr adnoddau ariannol i ymdrin â senarios yn briodol.
‘Safonol’ yw’r dyfarniad uchaf a roddir gan Llywodraeth Cymru.
I weld copi llawn o’r adroddiad, cliciwch yma
Hunan Arfarniad o’n Gwasanaethau
Fel rhan o’n proses Gynllunio Busnes flynyddol, byddwn yn hunanarfarnu ein holl wasanaethau, sydd yn golygu cymryd golwg gonest ar yr hyn y gwnaethom ei gyflawni. Mae’r broses yn cynnwys edrych yn fanwl ar ein perfformiad, adnabod llwyddiannau ar hyn wnaethom yn dda, ynghyd â’r hyn sydd angen ei wella. Gallwch ddarllen ein adroddiad diweddaraf yma.
Adnodd Cymharu Perfformiad Cymdeithasau Tai
Mae Grŵp Cynefin yn landlord cymdeithasol cofrestredig a gofrestrwyd yng Nghymru, neu fel y gelwir yn aml, yn ‘Gymdeithas Dai’. Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r trefniadau rheoleiddio yn ddiweddar, ac wedi creu adnodd i alluogi tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid gael mynediad at ddata perfformiad.
Mae modd gweld beth yw perfformiad Grŵp Cynefin yn erbyn sawl pennawd perfformiad, megis perfformiad ariannol, bodlonrwydd ei thenantiaid a chyflwr eiddo, ac mae modd gweld y data yma am bob cymdeithas dai arall yng Nghymru er mwyn cymharu. Mae’r data perfformiad hyd at ddiwedd Mawrth 2018.
Caiff yr adnodd hwn ei lansio heddiw, 1af Tachwedd 2018, a gellir clicio ar y linc isod i gael mynediad ato. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau neu gwestiynau boed ar yr adnodd ei hun, neu ar ein data perfformiad, a gallwch wneud hynny trwy gysylltu â Sioned Ames, Uwch Swyddog Perfformiad, ar 0300 111 2122, neu post@grwpcynefin.org.
Dyma’r linc i’r adnodd: Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai. (Er mwyn gweld y data ar y wefan, cliciwch ar y penawdau perfformiad.)
Cyfrifon Statudol
Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019
Dogfennau
- Dyfarniad Rheoleiddio Hydref 2019: Copi Cymraeg
- Dyfarniad Rheoleiddio Hydref 2019: Copi Saesneg
- Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24: Copi Cymraeg
- Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24: Copi Saesneg
- Hunan Arfarniad: 2016/17 Cymraeg
- Hunan Arfarniad: 2016/17 Saesneg
- Adroddiad Blynyddol: 2016/17 Cymraeg
- Adroddiad Blynyddol: 2016/17 Saesneg
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2018/19
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2017/18
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau 2016/17
- Dangosyddion Perfformiad: Canlyniadau Chwarter 1 2018/19
- Adroddiad Blynyddol: 2017/18 Cymraeg
- Adroddiad Blynyddol: 2017/18 Saesneg
- Adroddiad Blynyddol: 2018/19 Saesneg
- Adroddiad Blynyddol: 2018/19 Cymraeg
- Cyfrifon Statudol: Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019 - Cymraeg
- Cyfrifon Statudol: Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019 - Saesneg